Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 11 Ionawr 2023.
Rydym am alluogi mwy o blant i gerdded, mynd ar sgwter a beicio i'r ysgol. Rydym yn cefnogi hyn drwy ymgorffori teithio llesol yn yr arfarniad o ysgolion a cholegau newydd a ariennir drwy'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy a thrwy ariannu gwelliannau o ran cerdded a beicio drwy ein cronfa teithio llesol a'r grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau bob blwyddyn.