Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 11 Ionawr 2023.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Mae cwmnïau fel Airbus yn fy etholaeth fy hun yn buddsoddi mewn gwaith i ddatgarboneiddio eu gweithrediadau i ddarparu'r awyren ddi-allyriadau gyntaf yn y byd. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen pontio sgiliau'n sylweddol ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau bod gan Gymru y doniau cywir i gynhyrchu awyrennau mewn modd gwyrdd ym Mrychdyn yn y dyfodol. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi sut mae eich adran yn gweithio ar y cyd nid yn unig gydag adran Gweinidog yr Economi, ond gyda phartneriaid yn y diwydiant a'n cydweithwyr yn yr undebau llafur i sicrhau bod ein system addysg yn sicrhau'r doniau sydd eu hangen ar Gymru sero net yn y dyfodol?