Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 11 Ionawr 2023.
Rydym yn annog pob awdurdod lleol i wneud hynny, ac rydym yn darparu cymorth ariannol er mwyn i hynny ddigwydd hefyd. Rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud—mae'n bwysig iawn ein bod yn creu'r amgylchedd o amgylch ysgol sy'n hwyluso teithio llesol, yn ogystal â gosod y disgwyliad rheoleiddiol. Mae gosod y fframwaith yn un peth, ond dod o hyd i ffyrdd i wneud gwahaniaeth ar lawr gwlad fydd yn gwneud y gwahaniaeth ymarferol hwnnw, felly rwy'n cymeradwyo'r awdurdodau sy'n gwneud y penderfyniadau hynny'n fawr.