Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 11 Ionawr 2023.
Diolch. Yr wythnos diwethaf, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Sony Bridgend, sy'n ymddeol, fod angen i Gymru fod yn fwy arloesol, ac mai'r allwedd i'n llwyddiant fydd addysgu, meithrin a chadw talent yma yng Nghymru. Mae Mr Dalton yn credu bod dyfodol gwych i weithgynhyrchu yng Nghymru os gallwn ddysgu arloesi, datblygu technolegau gwyrdd a chanolbwyntio ar farchnadoedd heb eu cyffwrdd y tu allan i'r UE. Weinidog, a ydych yn cytuno bod yn rhaid inni addasu a datblygu ein strategaeth sgiliau? Sut y byddwch chi'n annog mwy o bobl ifanc i astudio gwyddoniaeth a pheirianneg, ac yn anad dim, annog myfyrwyr i astudio'r pynciau hyn ym mhrifysgolion Cymru ac yna aros yng Nghymru?