Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 11 Ionawr 2023.
Ie. Holl bwynt y partneriaethau sgiliau rhanbarthol yw casglu data'r diwydiant ar gyfer y gwaith cynllunio y mae colegau addysg bellach yn gallu ei wneud er mwyn darparu. Ond hefyd, mae'r berthynas rhwng colegau addysg bellach eu hunain a'r sectorau penodol yn gwbl hanfodol i'w galluogi i ymateb yn hyblyg ac mewn ffordd sy'n mynd i'r afael ag anghenion y farchnad lafur leol ac sy'n cynnig yr ystod orau bosibl o opsiynau i'w dysgwyr. Felly, rwy'n hapus iawn i edrych ar hynny ymhellach.