2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 11 Ionawr 2023.
Diolch yn fawr, Lywydd.
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer addysgu ieithoedd tramor modern? OQ58927
Yn sicr. 'Dyfodol Byd-eang' yw ein strategaeth ar gyfer dysgu ieithoedd rhyngwladol, a chyhoeddais ein strategaeth ddiwygiedig tuag at ddiwedd y llynedd. Mae honno'n amlinellu sut y byddwn ni a'n partneriaid 'Dyfodol Byd-eang' yn parhau i gefnogi ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion am dair blynedd arall.
Weinidog, mae gan y cwricwlwm newydd ymrwymiad i wneud Cymru'n genedl wirioneddol amlieithog. Hefyd, ceir yr ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i'r perwyl hwnnw ac fel y dywedwch, mae'r strategaeth 'Dyfodol Byd-eang' wedi'i diweddaru'n ddiweddar hefyd. Ond er hynny i gyd, Weinidog, gwyddom fod gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio Almaeneg a Ffrangeg ar lefel TGAU a Safon Uwch. Rwy'n credu ei fod wedi gostwng i oddeutu hanner rhwng 2015 a 2021. Rwy'n siŵr fod yna ffactorau amrywiol y tu ôl i hyn, Weinidog, ond yn amlwg mae'n duedd anffodus iawn, o ystyried uchelgeisiau datganedig Llywodraeth Cymru. Rwy'n siŵr fod pob un ohonom yma eisiau gweld Cymru'n bod yn wlad ryngwladol sy'n cynnig cyfleoedd i'n pobl ifanc o ran gwaith a theithio a datblygiad personol. Weinidog, o ystyried y realiti ar lawr gwlad ar hyn o bryd, tybed beth yn fwy y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, gan weithio gydag ysgolion, athrawon a darparwyr addysg eraill, i wyrdroi'r duedd hon a gweld y math o gynnydd y mae Llywodraeth Cymru am ei weld yn y dyfodol.
Diolch i John Griffiths am y cwestiwn atodol hwnnw. Rwy'n cytuno ag ef; mae'n bryderus. Rydym eisiau gwneud yn siŵr fod pobl ifanc yn dewis astudio ieithoedd tramor modern. Mae wedi gohebu â mi yn y gorffennol yn enwedig ynglŷn â'r dirywiad yn y ddarpariaeth Almaeneg, ac rwy'n cydnabod hynny. Y patrwm rydym yn ei weld yw, lle mae myfyrwyr yn cofrestru ar gyfer cymwysterau yn y meysydd hynny, maent yn dal i wneud yn dda iawn ynddynt, ond mae'r niferoedd yn rhai o'r meysydd hynny'n gostwng, fel y mae'n dweud. Fel Llywodraeth, rydym wedi edrych eto ar y strategaeth a fu gennym ers tair blynedd, ac wedi ceisio nodi'r pethau y mae angen ailffocysu arnynt, os hoffech, er mwyn ystyried yr hyn a ddysgwyd gennym dros y cyfnod hwnnw. Mae yna dair blaenoriaeth y byddwn yn canolbwyntio arnynt yn y cyfnod nesaf o dair blynedd yr ydym yn ymrwymo iddynt: yn amlwg, cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno darpariaeth ieithoedd rhyngwladol ledled Cymru—dyna'r amcan sylfaenol—ond wrth wneud hynny, canolbwyntio ar ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen ar addysgwyr eu hunain i'w darparu, a hefyd herio rhai o'r camsyniadau sy'n ymwneud â dysgu iaith, sydd â rhan i'w chwarae yn yr her yn fy marn i.
Byddwn yn cynnig ystod o gymorth, gan gynnwys cyllid penodol i athrawon cynradd gyda rhaglen datblygiad proffesiynol y Brifysgol Agored, Teachers Learning to Teach Languages, sy'n rhoi cyfle i athrawon cynradd ddysgu iaith newydd, boed yn Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Tsieinëeg Mandarin, a sut wedyn i ddysgu honno yn yr ystafell ddosbarth. Ymwelais â fy hen ysgol gynradd ddiwedd y tymor diwethaf a chlywais y bobl ifanc yn un o'r dosbarthiadau cynradd yn dysgu Sbaeneg. Roeddwn yn meddwl mai dyna'r union fath o beth sydd angen inni weld mwy ohono. Byddwn yn parhau â rhaglen sydd wedi bod yn llwyddiannus—y rhaglen mentora myfyrwyr—sy'n rhoi cymorth uniongyrchol ar lefel uwchradd gyda myfyrwyr sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn mynd i'r maes i hyrwyddo astudio iaith i fyfyrwyr TGAU a thu hwnt, gan sôn am eu profiadau personol o wneud hynny. Ond hefyd, rydym yn ceisio cysylltu'r gwaith a wnawn drwy 'Dyfodol Byd-eang' gyda gwaith Taith. Rwy'n meddwl bod rhai synergeddau yn y maes hwnnw ac rwy'n falch fod hynny wedi gallu cael ei gysylltu, fel ein bod yn gallu cysylltu, ym meddyliau pobl ifanc, y cyfle i astudio dramor, efallai, gyda'r cyfle i ddysgu iaith newydd a chynnig y cyfle mwy cyfannol hwnnw.
Felly, rwy'n meddwl bod nifer o bethau y gallwn eu gwneud. Rwy'n obeithiol iawn y gwelwn duedd well yn y cyfnod nesaf o dair blynedd na'r hyn a welsom yn y cyfnod diwethaf o dair blynedd. Ond rhaid cyfaddef, rwy'n credu y bydd y pwynt y dechreuodd gydag ef, rôl ieithoedd yn y cwricwlwm, yn gwneud cyfraniad sylweddol yn fwy hirdymor.
Credaf yn gryf fod angen i'n system addysg addasu i adlewyrchu anghenion y farchnad swyddi i'r dyfodol, a hynny'n lleol, yn genedlaethol ac, wrth gwrs, yn rhyngwladol gyda'r cyfleoedd sy'n codi nawr oherwydd Brexit ac agor ein hunain i weddill y byd. Er eich bod wedi taflu £5.7 miliwn tuag at eich rhaglen Llywodraeth Cymru, 'Dyfodol Byd-eang', fel yr amlinellodd John Griffiths nawr, rydym wedi gweld y duedd ar i lawr yn y nifer sy'n dewis y pynciau TGAU hynny, ac mae'n destun pryder. Rwy'n croesawu eich bwriad yn y cynllun diwygiedig hwn, ond os ydym o ddifrif am wreiddio ieithoedd tramor modern yn y cwricwlwm newydd a chael llwyddiant, mae angen cynllun difrifol arnom i allu recriwtio a chadw athrawon ieithoedd modern ar gyfer pob grŵp oedran, cynradd ac uwchradd, a'r arian i ddilyn hynny. Ni fydd cynnig rhaglen uwchsgilio i athrawon cynradd yn unig yn ddigon da ar ôl blynyddoedd o fethiant yn y maes hwn a'r sgiliau nad ydynt ar gael ar hyn o bryd. Felly, Weinidog, pa gynlluniau y byddwch yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at addysg iaith fodern sy'n addas i'r diben, a sut y byddwch yn monitro'r cynnydd hwnnw?
Diolch i'r Aelod am y croeso y mae hi wedi ei roi i'r gwaith sydd ar y gweill a hoffwn ei chyfeirio at yr ateb rwyf newydd ei roi i John Griffiths ar y camau y byddwn yn eu cymryd fel Llywodraeth. Rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n bwysig iawn yw bod y camau a gymerwn yn y maes polisi hwn, fel gydag unrhyw un arall, yn seiliedig ar y realiti yn hytrach nag ar ein golwg fyd-eang benodol ni. Rwy'n credu bod y byd lle rydym yn honni bod Brexit yn gyfle yn annhebygol o fod yn gyson â hyrwyddo gwerth ieithoedd tramor Ewropeaidd i'n pobl ifanc, a dyna pam y credaf ei bod yn bwysig y byddwn ni fel Llywodraeth yn ymateb i hynny drwy roi rhywbeth yn lle un o fanteision allweddol ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd i'n pobl ifanc, sef rhaglen Erasmus, y cânt ei hamddifadu ohoni yn awr o ganlyniad i Brexit. Rwy'n credu bod ail-wneud y cysylltiad hwnnw i'n pobl ifanc yn ffordd dda o ddatrys y broblem y mae Brexit wedi ei hachosi.