Wizz Air

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 11 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:28, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Rydym yn siomedig fod Wizz Air wedi penderfynu tynnu'n ôl o Faes Awyr Caerdydd. Mae ein cynllun adfer COVID ar gyfer y maes awyr yn parhau i fod ar waith, ond yn amlwg, mae'r hinsawdd economaidd bresennol yn hynod anodd i'r sector awyrennau ac nid yw wedi'i helpu gan y ffaith nad oes gan Lywodraeth y DU strategaeth i adfer meysydd awyr rhanbarthol.