Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 11 Ionawr 2023.
Mae'n briodol fy mod yn dilyn cyfraniad fy nghyd-Aelod Joel James fel Cadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd y mae Joel hefyd yn aelod ohono. Rwy'n dymuno dweud ychydig eiriau yn rhinwedd y swydd honno heddiw, Lywydd, gan ganolbwyntio ar ddeiseb o'r enw, 'Helpwch Gymunedau yng Nghymru i Brynu Asedau Cymunedol: Gweithredwch Ran 5 o Bennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011'. Galwai ar
'y Llywodraeth nesaf yng Nghymru i weithredu ar unwaith y darpariaethau yn Rhan 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 i sicrhau bod gan grwpiau yng Nghymru yr hawl gyfreithiol i brynu a rheoli asedau cymunedol.'
Lywydd, cafodd y ddeiseb hon ei chyflwyno gan Dan Evans ac mae'n cynnwys 655 o lofnodion. Y tro diwethaf inni ystyried y ddeiseb fel pwyllgor, fe wnaethom nodi'r ymchwiliad hwn a'r adroddiad gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a chytunwyd y byddem yn tynnu sylw at y ddeiseb a'r hyn y mae'n sefyll drosto yn y ddadl hon heddiw. Mae'n edrych ar asedau cymunedol mewn modd cyffredinol, ond fel pwyllgor rydym hefyd wedi ystyried nifer o ddeisebau sy'n ceisio gwarchod adeiladau lleol penodol, er enghraifft Ysgol i Ferched y Bont-faen neu Goleg Harlech.
Bydd gan bob un ohonom adeilad yn ein cymunedau nad yw'n gwneud digon o arian i'w berchennog, adeilad sydd efallai wedi mynd yn rhy gostus i'w gynnal, ond sydd â lle er hynny yng nghalonnau ein trigolion a'r bobl sy'n byw yn ein cymunedau. Lywydd, ym mis Chwefror y llynedd, buom yn trafod deiseb Ysgol i Ferched y Bontfaen. Dadleuais ei bod yn llawer rhy anodd i bobl leol angerddol ac ymroddedig brynu asedau cymunedol a rhaid bod mwy y gall pob un ohonom yn y Siambr hon ei wneud i'w cefnogi.
Rwy'n arbennig o falch o ddarllen adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai tuag at ddiwedd y llynedd, a'r 16 argymhelliad a wnaed ganddynt, i yrru'r lefel uwch o gefnogaeth, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y mwyafrif o'r argymhellion hyn ac wedi ymroi i ysbryd yr argymhellion hynny na chafodd eu derbyn yn llawn. Ond os caf, Lywydd, hoffwn annog y Gweinidog i edrych eto ar rai o'r argymhellion lle mae'r pwyllgor yn galw am weithredu o fewn 12 mis ac mae'r Llywodraeth yn dweud, a dyfynnaf eto, 'Ni fyddai'r adnoddau presennol yn ddigon'. Rwy'n fodlon derbyn—rwy'n berson eithaf ymarferol, rwy'n credu—ac rwy'n fodlon derbyn bod ystyriaethau ymarferol yr argymhellion hyn weithiau'n golygu y gallai 'o fewn 12 mis' olygu 13, 14 neu 15 mis. Ond byddwn yn falch pe bai'r Gweinidog yn gosod targed ymarferol a real y gellir ei gyflawni ar gyfer y math hwn o waith i sicrhau ei fod yn digwydd i bobl y cymunedau lleol y mae'r adeiladau hyn mor annwyl iddynt, a'i nodi mor realistig â phosibl, ac nad yw'n cael ei osod naill ochr a'n bod yn gweld deiseb arall mewn 17, 18 mis heb fod angen. Diolch yn fawr iawn.