6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: 'Asedau Cymunedol'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 11 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 4:26, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Llywydd. A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i John Griffiths am waith caled iawn ei bwyllgor yn rhoi hyn at ei gilydd ac am gyflwyno'r cynnig heddiw, a diolch hefyd i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hynod bwysig hon? Mae'n amlwg fod hwn yn bwnc y mae pobl yn teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch.

Mae asedau cymunedol wedi cael sylw mewn dadleuon yn y Siambr ar sawl achlysur eleni, gan adlewyrchu'n glir pa mor bwysig yw asedau a gwasanaethau a ddarperir o fewn cymunedau. Ac mae'r cymunedau eu hunain, wrth gwrs, yn un o'n hasedau mwyaf yng Nghymru, ac yn ganolog i'n polisïau a'n hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu. Mae ein bwrdd polisi cymunedau yn parhau i ddatblygu polisi i rymuso ein cymunedau mewn meysydd polisi allweddol. Bydd eu gwaith presennol yn ein helpu i sicrhau ein bod wedi nodi'r rhanddeiliaid cymunedol cywir i fwydo i'r gwaith penodol hwn sy'n ymwneud â pherchnogaeth gymunedol ar asedau.

Mae asedau tir ac eiddo yn galluogi ein cymunedau i gael mwy o reolaeth dros wasanaethau a chyfleusterau o fewn eu cymunedau ac maent yn hynod o bwysig i'r economi sylfaenol. Felly, rwy'n croesawu'r adroddiad a'r argymhellion gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Rwyf i a fy nghyd-Weinidogion Cabinet, Rebecca Evans a Jane Hutt, wedi derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion mewn egwyddor neu'n llawn, fel y mae pawb wedi nodi. Un yn unig a wrthodwyd gennym, sef argymhelliad 14—fel y nododd nifer o bobl—y byddem yn sefydlu cronfa Gymreig benodol ar gyfer prosiectau tai cymunedol. A'r rheswm dros wrthod yw oherwydd ein bod yn credu bod ein dull presennol eisoes wedi'i gynllunio i gyflawni amcan yr argymhelliad. Ein rheswm dros gredu hynny yw ein bod yn dilyn argymhellion yr adolygiad annibynnol o'r cyflenwad tai fforddiadwy 2019 y dylem symleiddio rhaglenni ar gyfer tai fforddiadwy, ac fe wneuthum dderbyn yr argymhelliad hwnnw. Felly, rydym wedi cymryd camau i symud yr argymhelliad hwnnw yn ei flaen ac rydym yn parhau i archwilio ffyrdd o sicrhau bod cyllid ar gael yn benodol ar gyfer datblygiadau tai a arweinir gan y gymuned.

Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio'n agos gyda Cwmpas ar gynllun ar gyfer ymddiriedolaeth tir cymunedol yn Abertawe. Os yw eu cais am arian o'r gronfa datblygu tir ac adeiladau yn llwyddiannus, bydd fy swyddogion yn sicrhau wedyn y gellir defnyddio'r mecanwaith hwn yn llawer ehangach i gefnogi prosiectau tai a arweinir gan y gymuned. Mae'r gronfa'n cynnig cyfle i grwpiau a arweinir gan y gymuned gael mynediad at gyllid ar gyfer gwaith cyfnod cynnar, fel astudiaethau dichonoldeb safleoedd ac arfarniadau o opsiynau, y clywsom eu bod yn rhwystr penodol a wynebant. Ac rwy'n edrych ymlaen at allu adrodd i'r pwyllgor ar gynnydd wrth i'r peilot hwnnw ddatblygu. Credaf yn gryf mai gweithio mewn partneriaeth yw'r ffordd ymlaen. Drwy weithio mewn partneriaeth â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, gall grwpiau tai a arweinir gan y gymuned hefyd gael mynediad at grant tai cymdeithasol. Mae'r dull hwn o weithredu hefyd yn rhoi mynediad i'r grŵp cymunedol at yr arbenigedd technegol a phroffesiynol y byddant yn ei chael hi'n anodd cael gafael arno fel arall.

I droi at argymhellion eraill y pwyllgor, maent yn amlwg yn bellgyrhaeddol iawn. Mae ein pecyn cymorth ar gyfer grwpiau cymunedol yn fframwaith o ganllawiau, cyllid a chefnogaeth arall, ac mae llawer ohono'n cael ei ddarparu gan bartneriaid yn y trydydd sector, megis Cwmpas, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a'r Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol. Mae'r argymhelliad y dylid sefydlu comisiwn i edrych yn fanylach ar rai o'r rhwystrau i sut y darparwn gymorth yn cydnabod cymhlethdod a phwysigrwydd cynnwys cymunedau mewn perthynas â pherchnogaeth gymunedol neu reoli asedau yn eu cymunedau. Ac yn y man, byddaf yn trafod yr angen i ystyried ffurf a chwmpas y comisiwn ac i ystyried beth fydd ei drefniadau cymorth yn dibynnu arno a phwy fydd y rhanddeiliaid pwysicaf. Rydym yn llwyr gefnogi ein cymunedau lle mae perchnogaeth yn briodol, ond nid dyma'r opsiwn gorau bob amser, yn enwedig mewn cyfnod heriol yn economaidd. Gall modelau eraill fod yr un mor rymusol a thrwy dderbyn yr argymhellion ein bod yn sefydlu rhwydwaith cymheiriaid ac yn casglu astudiaethau achos, gallwn rannu gwahanol brofiadau a dysgu a sicrhau nad dull un ateb i bawb sydd gennym, Ddirprwy Lywydd. 

Mae'r argymhellion hefyd yn cynnwys galwad am fwy o ganllawiau ar werth cymdeithasol, yn enwedig sut y gellir adlewyrchu hyn yn y pris y mae grwpiau cymunedol yn ei dalu am asedau. Rwy'n cydnabod bod hyn yn cael ei weld fel rhwystr mawr rhag trosglwyddo'n fforddiadwy i grwpiau cymunedol. Fodd bynnag, rydym yn darparu grantiau a benthyciadau hael i gymunedau er mwyn galluogi cymunedau i brynu asedau. Rydym eisoes wedi buddsoddi £46.4 miliwn mewn grantiau i 369 o brosiectau ers 2015 ac rydym wedi ymrwymo £19 miliwn arall yn y tair blynedd nesaf; mae £5 miliwn hefyd ar gael o'r gronfa benthyciadau cymunedol sy'n cael ei rhedeg ar ein rhan gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae pob un yn rhoi mynediad i grwpiau cymunedol at hyd at £300,000 i brynu asedau. Bydd ein hadolygiad o'r canllawiau yn ystyried gwerth cymdeithasol, gan gynnwys yr ymchwil a wnaed gan Compass Cymru mewn perthynas â chaffael cyhoeddus.

Mae gwerth cymdeithasol yn rhan annatod o'n hymrwymiad statudol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac wrth gwrs, rwy'n derbyn yr argymhelliad y dylai hyn fod yn llawer mwy eglur yn ein canllawiau. Bydd hyn a gwaith parhaus arall ar werth cymdeithasol a chynaliadwyedd yn ein helpu i weithredu ar yr argymhelliad hwn o fewn y ffrâm amser y mae'r pwyllgor wedi'i osod i ni. Bydd ymgysylltu â rhanddeiliaid yn hanfodol er mwyn cynhyrchu canllawiau i fodloni disgwyliadau'r pwyllgor a gallaf gadarnhau bod swyddogion eisoes wedi dechrau gweithio ar hyn. Felly, gallaf eich sicrhau'n bendant nad ymgais i'w osod naill ochr yw hyn—rwy'n awyddus tu hwnt i wneud i hyn ddigwydd. 

Un o'r rhwystrau mwyaf cyson a amlygwyd yn y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor oedd prinder y data a oedd ar gael i'r cyhoedd. Mae ein platfform mapio data, DataMapWales, eisoes ar gael i ddefnyddwyr cofrestredig yn rhad ac am ddim, ond ar hyn o bryd nid yw ond yn dangos tir mewn perchnogaeth gyhoeddus. Ar hyn o bryd mae swyddogion yn gweithio gyda DataMapWales gyda'r bwriad o gynnwys y data a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF ar dir mewn perchnogaeth breifat. Bydd hyn yn cynyddu'r data i gwmpasu tua 87 y cant o dir. Mae'r gofrestrfa tir hefyd yn anelu at gofrestru'r holl dir erbyn 2030, a fydd yn rhoi data llawn i ni ar ein platfformau mapio.

Mae'r pwyllgor wedi argymell sefydlu comisiwn i ystyried nifer o'r 16 o argymhellion a wnaethant, ac rwy'n croesawu'r syniad yn llwyr. Mae hwn yn faes cymhleth lle ceir llawer o ddiddordebau a safbwyntiau a rhwystrau anodd a pharhaus y mae angen eu hystyried yn fanwl iawn. Bydd natur y comisiwn, ei aelodaeth a'i gylch gorchwyl yn hollbwysig os yw'r comisiwn am ddod o hyd i atebion ymarferol sy'n grymuso grwpiau cymunedol, ac mae'n bwysig iawn fod gan randdeiliaid, gan gynnwys cymunedau eu hunain, lais yn hyn. Ac fel rwy'n dweud, mae'r gwaith eisoes wedi dechrau.

Nododd nifer o'r Aelodau bwynt am yr amseru. Felly, hoffwn ddweud ein bod eisoes yn gwneud llawer o'r gwaith. Y rheswm ei fod 'mewn egwyddor' yw nad ydym yn ei wneud yn union yn y ffordd y nododd y pwyllgor, ond rydym eisoes wedi ei ddechrau. Mater mawr i ni fydd sut i gael cymunedau i gymryd rhan yn y broses o sefydlu cylch gorchwyl a chwmpas a maint ac aelodaeth y comisiwn. Rwy'n hapus iawn i'r Aelodau fod yn rhan o hynny neu'n wir i'r pwyllgor wneud argymhellion pellach, John, os ystyrir bod hynny'n briodol. 

Byddwn am ofyn i'r comisiwn edrych ar sut y gellir rhoi mwy o gyfle cyfartal i gymunedau wrth iddynt gystadlu yn erbyn buddsoddwyr preifat, unwaith eto, fel y soniodd nifer o bobl, Mabon yn arbennig, ac fe wnaeth nifer o bobl eraill nodi hyn hefyd. Mae hyn yn cynnwys ystyried a fyddai deddfwriaeth yn briodol i Gymru. Felly, mae'n bwysig iawn fod y comisiwn yn ystyried tystiolaeth ynglŷn â pha mor effeithiol y bu'r ddeddfwriaeth o ran grymuso pwyllgorau lle cafodd deddfwriaeth ei chyflwyno, ac rydym yn comisiynu adolygiad annibynnol o'r ddeddfwriaeth yn yr Alban a Lloegr i gynorthwyo'r comisiwn yn ei waith. Ond yn bendant, mae'n dal i fod yn agored i'w ystyried. Os mai dyna mae'r comisiwn yn ei argymell yn y dyfodol, byddem yn hapus iawn gyda hynny. Rydym am eu cynorthwyo i wneud y gwaith hwnnw.

Felly, ochr yn ochr â'r cynlluniau peilot eraill a gyflawnwyd drwy ein bwrdd polisi cymunedau, bydd hyn yn darparu tystiolaeth i alluogi'r comisiwn i ystyried a fyddai darpariaethau tebyg o fudd i'r cymunedau yng Nghymru. Mae'r pwyllgor wedi ein herio yn gwbl briodol i wneud trosglwyddo asedau'n haws i'n cymunedau. Mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod y trosglwyddiadau hynny'n gynaliadwy ac yn gwella gwytnwch ein cymunedau. Diolch yn fawr i'r pwyllgor am ei argymhellion ac rwy'n hapus iawn i fwrw ymlaen â'r gwaith ochr yn ochr â'r pwyllgor ac Aelodau eraill sydd â diddordeb. Diolch.