Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 11 Ionawr 2023.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac mae'n bleser gennyf agor y ddadl hon heddiw yn enw Darren Millar. Mae nifer o resymau pwysig iawn dros gyflwyno'r ddadl hon ar ddiwrnod cenedlaethol ymwybyddiaeth canserau llai goroesadwy, a'r prif reswm yw bod angen inni dynnu sylw Llywodraeth Cymru ac Aelodau ar draws y Siambr hon at y ffaith mai Cymru, yn drasig, sydd â'r gyfradd farwolaethau uchaf o ganlyniad i glefyd yr afu ar draws pedair gwlad y DU, gyda chyfraddau marwolaeth bron â dyblu yn y 10 mlynedd diwethaf, o 5.7 fesul 100,000 i 11 o bobl fesul 100,000. Ac mae hyn, yn anffodus, oherwydd yr anghydraddoldeb mawr yn y prognosis rhwng gwahanol ganserau. Ar ben hynny, mae gennym brinder cronig yn y gweithlu o hepatolegwyr a nyrsys arbenigol yr afu ledled Cymru, sy'n gwaethygu'r anghydraddoldebau hyn, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig a byrddau iechyd heb wasanaeth digonol. Ym mwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, o fewn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, mae cyfraddau marwolaeth canser yr afu 50 y cant yn uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru ac maent wedi cynyddu 28 y cant yn 2019-20 yn unig. Ac nid wyf yn ymddiheuro pan ddywedaf fod hyn yn brawf ein bod yn gwenud cam â chleifion canser yr afu a chleifion clefyd yr afu yma yng Nghymru.
Yr ail reswm pam mae angen y ddadl hon yw oherwydd na allwn gladdu ein pennau yn y tywod ynghylch y mater hwn. Mae angen inni sylweddoli na fydd y broblem yn diflannu ac mae'n debygol o waethygu. Mae nifer y bobl sy'n cael diagnosis o glefyd yr afu yng Nghymru bellach wedi mwy na threblu yn yr 20 mlynedd ddiwethaf i'r lefel uchaf erioed, sy'n golygu bod angen trin mwy o gleifion ar adeg pan fo gwasanaethau'r GIG o dan y pwysau mwyaf.
Yn drydydd, mae angen inni gydnabod bod cleifion clefyd yr afu yng Nghymru yn wynebu anghydraddoldeb daearyddol enfawr o ran cael mynediad at ofal arbenigol. Mae miloedd yn marw'n ddiangen oherwydd na allant gael digon o fynediad at yr arbenigedd y maent ei angen, gan fod gwasanaethau'r afu mewn byrddau iechyd yn cael eu hesgeuluso a'u tangyllido'n gyson.
Y rheswm olaf yw bod angen inni gydnabod y modd y mae Cymru'n llusgo ar ôl gwledydd eraill y DU wrth fynd i'r afael â phroblemau iechyd. Cymru yw'r unig un o wledydd y DU heb darged i ddileu hepatitis C. Gall hepatitis C achosi ystod o effeithiau ar iechyd ac mae'n effeithio'n bennaf ar yr afu. A thra bo GIG Lloegr ar y trywydd cywir i ddileu hepatitis C erbyn 2025, a Gogledd Iwerddon wedi gosod yr un targed a'r Alban wedi mynd gam ymhellach drwy anelu at ddileu hepatitis C erbyn 2024, mae Cymru ar ei hôl hi'n ofnadwy. Mewn gwirionedd, canfu gwaith modelu diweddar na fyddai Cymru, heb unrhyw darged, ac os bydd cyfraddau triniaeth cyfredol yn parhau, yn cael gwared ar hepatitis C tan o leiaf 2040, sy'n frawychus mewn gwirionedd, gan fod amcangyfrifiad o'r nifer o bobl yr effeithiwyd arnynt yn 8,300 a bod hep C yn hawdd i'w drin drwy ddefnyddio triniaethau gwrthfeirysol sy'n gweithredu'n uniongyrchol.
Canser yr afu sydd â'r gyfradd oroesi pum mlynedd waethaf ond un o blith yr holl ganserau llai goroesadwy. Yng Nghymru, ni fydd tua naw o bob 10 person sydd wedi cael diagnosis yn goroesi mwy na phum mlynedd, sy'n fwy na chyfartaledd cenedlaethol y DU. A golyga hyn ein bod angen mwy o fuddsoddi ar frys mewn ymchwil a ffocws penodol ar ddiagnosis cynharach a chyflymach er mwyn helpu cleifion. Rwy'n annog y Llywodraeth i gydnabod bod gwir angen y buddsoddiad hwn ac y gall helpu i gynyddu disgwyliad oes yn sylweddol yn ogystal â gwella ansawdd bywyd miloedd o bobl yng Nghymru ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i gydnabod y dylai'r byrddau iechyd roi blaenoriaeth uwch i hyn.
Mae'r argyfwng clefyd yr afu a wynebwn yng Nghymru yn rhoi baich enfawr ar y GIG a rhagamcanir y bydd yn gwaethygu ymhellach. Yn 2020-21, gwelwyd cynnydd o 25 y cant yn nifer y cleifion a gafodd eu derbyn i'r ysbyty o ganlyniad i glefyd yr afu, gyda bron i 26,000 achos o dderbyn i'r ysbyty ar y pwynt argyfwng y llynedd yn unig. Ond er hyn, yng Nghymru, ceir llai na 14 o feddygon yr afu i gefnogi poblogaeth o fwy na 3.1 miliwn o bobl, ac mae naw ohonynt wedi'u lleoli yng Nghaerdydd a Gwent. Ym mis Mehefin 2022, fe wnaeth y Gweinidog iechyd gydnabod bod clefyd yr afu wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y cleifion allanol a chleifion mewnol, ac mae angen mwy o feddygon ymgynghorol hepatoleg. Er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng gweithlu, hoffwn nodi bod gwir angen i'r datganiad ansawdd ar gyfer clefyd yr afu a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd gael setliad ariannol hirdymor er mwyn recriwtio a hyfforddi gweithlu gwydn ac wedi'i ddosbarthu'n well.
Mae angen inni sicrhau nad yw'r newid o'r grŵp gweithredu ar gyfer clefyd yr afu i'r datganiad ansawdd yn lleihau blaenoriaeth clefyd yr afu o fewn y GIG a byrddau iechyd yng Nghymru, ac rydym angen i'r Llywodraeth sicrhau bod y datganiad ansawdd newydd ar gyfer clefyd yr afu yn cael ei weithredu'n effeithiol. I wneud hyn, bydd angen sefydlu rhwydwaith clinigol strategol penodol ar gyfer iechyd yr afu i sbarduno cynnydd ac i gadw momentwm yn sgil dod â chyllid ar gyfer y grŵp cyflawni blaenorol ar gyfer clefyd yr afu a'r cynllun cyflawni ar gyfer clefyd yr afu i ben.
Y gwirionedd trist yw bod modd atal 90 y cant o'r achosion o glefyd yr afu, ac er ei fod yn cael ei achosi'n bennaf gan gamddefnydd o alcohol, mae gordewdra a hepatitis feirysol hefyd yn chwarae eu rhan. Gwyddom fod nifer y derbyniadau i'r ysbyty bedair gwaith yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o'i gymharu â'r ardaloedd mwyaf cyfoethog, a gwyddom hefyd fod Cymru'n wynebu epidemig o ordewdra, gydag oddeutu dwy ran o dair o boblogaeth oedolion Cymru yn cario gormod o bwysau neu'n ordew, ac un o bob tri â chlefyd yr afu brasterog cam cynnar. Amcangyfrifir y bydd tua un o bob pump o'r rhain yn mynd ymlaen i ddatblygu clefydau mwy difrifol yn y pen draw. Felly, mae angen inni feddwl yn fwy gofalus am y strategaethau atal hirdymor sydd eu hangen er mwyn codi ymwybyddiaeth o beryglon camddefnyddio alcohol ac o fod dros bwysau neu'n ordew. Rwy'n cydnabod ymdrechion y Llywodraeth i geisio annog ffyrdd iachach o fyw gyda mentrau i helpu pobl i feicio, defnyddio llwybrau cerdded diogel ac i fynd i'r afael ag allyriadau carbon, ond y gwirionedd yw bod angen i ni wneud mwy i gynnal arferion mwy hirdymor a newid ymddygiad.
Mae angen inni wneud llawer mwy i fynd i'r afael â'r amrywio daearyddol enfawr sy'n bodoli o ran cael mynediad at lwybrau diagnosis cynnar o glefyd yr afu mewn gofal sylfaenol, a mynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig â chlefyd yr afu oherwydd y canfyddiad o gamddefnydd o alcohol. Yn wir, dangosodd arolwg diweddar o dros 1,400 o bobl, a gyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Afu Prydain, fod bron i hanner y rhai a holwyd wedi profi stigma gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, ac mae gwir angen i'r diwylliant hwn newid, oherwydd mae'n llesteirio diagnosis cynnar am fod pobl yn rhy ofnus i ofyn am gymorth a mynychu apwyntiadau arferol neu apwyntiadau dilynol.
Yn anffodus, yn aml ni fydd symptomau clefyd yr afu i'w canfod hyd nes na fydd modd dad-wneud y niwed, ac fel llawer o rai eraill, credwn fod angen rhaglen sgrinio genedlaethol, lle gall meddygon teulu atgyfeirio pobl os oes ganddynt bryderon neu lle ceir hanes teuluol o broblemau'r afu. Fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, clefyd cronig yr afu yw'r ffactor risg mwyaf arwyddocaol ar gyfer carsinoma hepatogellol, y math mwyaf cyffredin o ganser yr afu cychwynnol. Felly, er mwyn gwella cyfraddau goroesi canser yr afu, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud diagnosis o glefyd yr afu yn gynharach ac yn darparu strategaeth glir ar gyfer monitro pobl sydd â chlefyd yr afu i ganfod celloedd canser yr afu carsinoma hepatogellol, a chyflwyno mecanweithiau adolygu gwell a mwy trylwyr. Nid yn unig y bydd hyn yn helpu i achub bywydau, bydd yn arbed llawer o arian i'r GIG drwy leihau'r angen am driniaethau costus iawn ar gamau diweddarach. Gellir gweld enghraifft o sut y byddai hyn yn edrych yn ymgyrch Ymddiriedolaeth Afu Prydain i wella diagnosis cynnar o glefyd yr afu. Cafodd ei lansio yng Nghymru y llynedd a'i nod yw hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r argyfwng clefyd yr afu.
I gloi fy nghyfraniad, hoffwn nodi fy mod yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi torri tir newydd drwy gyflwyno llwybr prawf gwaed annormal Cymru ym mis Hydref 2021, ac mae potensial iddo wella diagnosis o glefyd yr afu. Fodd bynnag, hoffwn atgoffa'r Llywodraeth na fydd y llwybr hwn o unrhyw ddefnydd gwirioneddol os na chaiff ei archwilio'n flynyddol a'i fonitro'n rheolaidd, fel y gellir ei ddefnyddio i ysgogi gwelliannau i nodi'r clefyd yn gynharach a mynd i'r afael â gwahaniaethau parhaus yn y canlyniadau gofal ar draws y byrddau.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i Ymddiriedolaeth Afu Prydain am eu gwaith aruthrol yn ymgyrchu am wasanaethau, diagnosis a thriniaethau gwell ar gyfer clefyd yr afu, a hoffwn annog pawb yma i gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch.