Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 11 Ionawr 2023.
Soniodd Altaf am bwysigrwydd edrych ar alcohol fel un o achosion canser yr afu, ac mae hynny’n gwbl gywir. Ond credaf hefyd ei bod yn bwysig sylweddoli pam fod alcohol mor endemig yn ein cymdeithas. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn sefyll mewn ciw, yn aros i dalu am betrol, ac roedd y dyn o'm blaen nid yn unig yn talu am betrol, roedd hefyd yn prynu potel o wirod. Nid oedd yn prynu bara neu laeth. Na, roedd yn prynu alcohol. Mae'n gyfuniad diddorol, onid yw? Byddai’n hynod ddiddorol edrych ar ystadegau gwerthiant alcohol o orsafoedd petrol. Rwy'n gobeithio nad oedd yn bwriadu ei yfed tra oedd yn gyrru, ond rwy’n weddol hyderus ei fod yn gynrychioliadol o’r un o bob pump o bobl yng Nghymru sy’n yfed mwy na'r lefelau a argymhellir o alcohol.
Mae’n rhaid inni sicrhau ein bod yn gweithio gyda phobl i wneud iddynt ddeall bod angen iddynt roi seibiant i'w hafu fel y gallant wella. Mae llawer o bobl yn ymatal rhag yfed alcohol ym mis Ionawr oherwydd y gormodedd o alcohol y maent wedi’i yfed dros y Nadolig, ond efallai fod angen i unrhyw un sy’n cael trafferth cyflawni’r adduned boeni a oes angen cymorth arnynt i leihau eu dibyniaeth ar alcohol cyn iddo eu lladd.
Ond rwyf am ganolbwyntio gweddill fy sylwadau ar rôl gordewdra a rôl bwyd fel prif achos gordewdra, sef y brif her i ni yma yn fy marn i. Mae'r ystadegau'n frawychus. Mae dros 1.5 miliwn o oedolion yng Nghymru dros bwysau, a 655,000 yn ordew. Mae hynny'n frawychus am nad yw'r boblogaeth ond oddeutu 3 miliwn, ac nid yw pob un ohonynt yn oedolion. Felly, mae gennym argyfwng iechyd cyhoeddus mawr. Gwyddom ei bod yn annhebygol y byddwn yn colli pwysau os ydym yn yfed llawer iawn o alcohol. Ond nid dyna’r prif achos. Bwyd gwael yw hwnnw yn anad dim yn fy marn i, gan nad yw llawer o’r bobl sydd dros bwysau neu’n ordew yn yfed unrhyw alcohol o gwbl. Yn amlwg, nid yw hynny’n wir mewn perthynas â'r un o bob pedwar plentyn yng Nghymru sydd dros bwysau neu’n ordew erbyn iddynt ddechrau yn yr ysgol gynradd. Mae'n rhaid ei fod oherwydd yr hyn a roddir iddynt i'w fwyta. Nid wyf eto wedi cyfarfod â babi sy'n cael ei fwydo ar y fron ac sydd dros bwysau. Felly, byddai cynyddu bwydo ar y fron yn lleihau nifer y babanod a phlant bach sydd yn y sefyllfa honno. Dyn a ŵyr beth sydd mewn llaeth fformiwla, ond mae’r deiet a fabwysiadwn wrth ddiddyfnu yn elfen hollbwysig yn hyn o beth. Mae'r bwyd y mae plant dwy oed yn ei fwyta yn paratoi'r ffordd ar gyfer yr hyn y maent yn barod i'w fwyta, pan fyddant yn blant ac yn oedolion.
Nid yw 60 y cant o boblogaeth y DU byth yn paratoi bwyd o'r dechrau. Y brif broblem yw bwyd wedi'i brosesu, sef y deiet mwyaf cyffredin bellach ar draws y DU. Mae’r diwydiant bwyd yn gwario biliynau o bunnoedd bob blwyddyn ar hysbysebu, gan ein hannog i fwyta pethau na fyddai ein neiniau’n ei adnabod fel bwyd. Felly, nid plant yn unig sydd angen eu hamddiffyn rhag yr hysbysebu di-baid hwn sy'n achosi lefel mor eithriadol o hunan-niwed. Os nad ydych wedi paratoi bwyd eich hun, mae'n annhebygol y byddwch yn ymwybodol fod bwyd wedi'i brosesu yn aml yn llawn o siwgr, halen a braster i wneud iddo flasu fel unrhyw beth o gwbl, ac i gynyddu proffidioldeb. Yn syml, ni allwn barhau fel hyn. Mae gordewdra'n costio £6 biliwn y flwyddyn i’r GIG ar draws y DU, ac mae angen newid system gyfan yn ein perthynas â bwyd. Nid canser yr afu yw'r unig broblem. Gordewdra bellach yw ail achos mwyaf pob canser, ar ôl ysmygu. Dyna pam fod yn rhaid inni gael newid system gyfan yn ein perthynas â bwyd, a pham na allwn fforddio peidio â chael Bil bwyd i sbarduno’r newid sydd ei angen arnom.