Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 11 Ionawr 2023.
Diolch. Diolch i’r Aelod dros Ganol De Cymru, Joel James, am sicrhau’r ddadl amserol a phwysig hon yn ystod mis ymwybyddiaeth Carwch Eich Afu, ac ar ddiwrnod cenedlaethol codi ymwybyddiaeth canserau llai goroesadwy. Mae wedi bod yn eiriolwr gwych ar gyfer iechyd yr afu fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar glefyd yr afu a chanser yr afu, ac rwy’n rhannu ei ymrwymiad i fynd i’r afael ag amrywio diangen o ran gofal a chanlyniadau clefyd yr afu. Rydym hefyd yn croesawu arloesi diweddar ac arferion da a hyrwyddwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cyflwyno'r datganiad ansawdd ar gyfer clefyd yr afu yn ddiweddar, a chyflwyno llwybr profion gwaed annormal Cymru ar draws saith bwrdd iechyd.
Yn ei gyflwyniad, nododd Joel mai gan Gymru y mae’r cyfraddau marwolaeth uchaf oherwydd clefyd yr afu yn y DU, a dywed na allwn gladdu ein pennau yn y tywod mewn perthynas â'r mater hwn. Nododd fod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill y DU ar fynd i’r afael â hepatitis C, a galwodd am fuddsoddiad mewn ymchwil ac mewn diagnosis cynharach a chyflymach o glefyd yr afu.
Nododd Rhun ap Iorwerth fod clefyd yr afu a chanser yr afu yn argyfwng iechyd cyhoeddus yng Nghymru, a thynnodd sylw at yr angen i fuddsoddi mewn mesurau ataliol, gan fynd i’r afael â chamddefnyddio alcohol a gordewdra yn benodol. Nododd Altaf Hussain ei bod yn hanfodol ein bod yn gwneud popeth a allwn i sicrhau nad oes unrhyw un yn marw’n ddiangen o glefyd yr afu, ac yn enwedig clefyd yr afu sy’n gysylltiedig ag alcohol, sef bron i ddwy ran o dair o'r achosio o glefyd yr afu. Nododd fod gan Gymru loteri cod post o ran mynediad at ofal arbenigol a chymorth ataliol. Dywedodd Jenny Rathbone, yn gwbl briodol, mai dim ond un afu sydd gennym, ni all ein cyrff oroesi hebddo, ac os na ofalwn am ein hafu, byddwn yn marw. Tynnodd Gareth Davies sylw at broblem benodol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr lle mae’r gyfradd derbyniadau i’r ysbyty oherwydd clefyd yr afu 15 y cant yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, a chyfraddau marwolaeth o ganser yr afu 50 y cant yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol yng Nghymru. Gorffennodd drwy ddweud bod afu gwell yn well i chi. Galwodd Laura Anne Jones am weithredu cyflym a chydgysylltiedig ar y lefel uchaf yn Llywodraeth Cymru a GIG Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng clefyd yr afu yng Nghymru, gan ymgorffori’r arferion da a nodwyd ganddi mewn rhai byrddau iechyd. Dywedodd fod clefyd yr afu yn fwyaf cyffredin yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Cydnabu’r Dirprwy Weinidog, Lynne Neagle, lawer o’r pwyntiau a wnaed gan y siaradwyr, ac fe ategodd rai ohonynt hyd yn oed. Rhestrodd yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ac rwyf wedi cydnabod rhywfaint o hynny, fel y gwnaeth fy nghyd-Aelodau, ond yn anffodus, ni chefnogodd yr anghenion profedig a nodwyd yn y cynnig hwn—anghenion a nodwyd nid gan wleidyddion, ond gan gyrff y sector eu hunain.
Mae nifer y bobl sy'n cael diagnosis o glefyd yr afu yng Nghymru wedi mwy na threblu rhwng 2002 a 2021, gan godi i 53,261 o bobl. Mae marwolaethau o glefyd yr afu yng Nghymru yn parhau i godi, gyda chyfraddau marwolaethau wedi cynyddu 23 y cant rhwng 2019 a 2021. Fel y clywsom, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi amserlen ar gyfer cyflawni'r canlyniadau a nodwyd yn ei datganiad ansawdd ar glefyd yr afu, yn sgil y cynnydd yn nifer yr achosion o glefyd yr afu ym mhoblogaeth Cymru.
Er bod modd atal 90 y cant o'r achosion o glefyd yr afu, mae nifer y bobl sy’n marw o’r clefyd wedi dyblu yn y ddau ddegawd diwethaf ac wedi cynyddu, fel y clywsom, 400 y cant ymhlith pobl 65 oed ac iau, gyda naw o bob 10 claf canser yr afu yn marw o fewn pum mlynedd i gael diagnosis. Gyda chyfraddau marwolaethau wedi cynyddu ers cyhoeddi’r polisi blaenorol, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru geisio atal y clefyd yn well, gan gynnwys: dyblu’r gweithlu hepatoleg, cynnwys nyrsys arbenigol clefyd yr afu i fynd i’r afael ag amrywio enfawr o ran mynediad at ofal arbenigol; timau gofal alcohol saith diwrnod ar waith ym mhob bwrdd iechyd i ddiwallu anghenion lleol; a sicrhau bod pob meddyg teulu'n mabwysiadu llwybr profion gwaed annormal yr afu Cymru er mwyn gwella cyfraddau canfod clefyd yr afu yn gynnar.
Mae hepatitis C yn feirws a gludir yn y gwaed a all achosi ystod o effeithiau iechyd, gan effeithio'n bennaf ar yr afu. Er bod modd ei atal, ei drin a’i wella, clywsom ffigurau’r Ymddiriedolaeth Hepatitis C a ddangosai mai Cymru yw’r unig wlad yn y DU bellach nad oes ganddi darged o ddileu hepatitis C cyn targed 2030 Sefydliad Iechyd y Byd, gyda Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi gosod uchelgais i'w ddileu erbyn 2025, a’r Alban erbyn 2024. Mewn cyferbyniad, canfu gwaith modelu diweddar y byddai parhau â’r cyfraddau triniaeth presennol yng Nghymru yn golygu na fyddai’n cael ei ddileu tan o leiaf 2040.
Fel y maent wedi’i nodi eto ar gyfer y ddadl hon, dylai Llywodraeth Cymru weithredu’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn dilyn ei ymchwiliad i hepatitis C yng Nghymru, gan gynnwys llunio strategaeth ddileu genedlaethol, nodi llwybr clir i ddileu hepatitis C erbyn 2030 fan bellaf, a lansio ymgyrch ymwybyddiaeth o hepatitis C. Mae gan Gymru argyfwng iechyd cyhoeddus clefyd yr afu a chanser yr afu. Mae gan yr afu allu rhyfeddol i adfywio ac adnewyddu ei hun. Os ceir diagnosis cynharach, gellir gwrthdroi niwed i'r afu a gellir lleihau risgiau'n sylweddol drwy ddeiet, ymarfer corff ac yfed yn gymedrol. Ar draws y byrddau iechyd, mae cyfraddau marwolaeth clefyd yr afu wedi dyblu mewn dau ddegawd, ac mae marwolaethau o ganser yr afu bron â bod wedi dyblu mewn 10 mlynedd yn unig hyd at 2020, gan roi baich enfawr ac anghynaliadwy ar y GIG yng Nghymru.
Mae’r cynnig a gyflwynwyd heddiw yn uchelgeisiol, ond yn angenrheidiol er mwyn dal i fyny â’r cynnydd yng ngraddfa a difrifoldeb cynyddol argyfwng iechyd y cyhoedd clefyd yr afu a chanser yr afu. Rydym yn galw felly ar Lywodraeth Cymru i gryfhau ei hymdrechion atal, i gyflymu’r broses o ganfod clefyd yr afu yn gynharach mewn gofal sylfaenol ac ehangu timau gofal alcohol ar draws byrddau iechyd i helpu’r rheini y mae taer angen cymorth arnynt. Rydym yn annog y Gweinidog i ddarparu setliad cyllid hirdymor i recriwtio, hyfforddi a chadw gweithlu arbenigol, a chredwn mai’r ffordd orau o gyflawni’r amcanion hyn yw drwy gyflwyno rhwydwaith clinigol strategol iechyd yr afu pwrpasol i gynnal y momentwm ac adeiladu ar waith gwych y grŵp gweithredu ar glefyd yr afu.
Fel y dywed Ymddiriedolaeth Afu Prydain yn eu gohebiaeth i’r holl Aelodau, 'Hoffem ofyn i'r Aelodau bleidleisio o blaid y cynnig fel y’i cyflwynwyd, ac nid o blaid gwelliant 1, fel y gallwn gadw’r canlyniadau penodol y gellir eu cyflawni yn y cynnig. Rwy'n annog yr Aelodau i ddefnyddio eu cydwybod a phleidleisio yn unol â hynny.'
Gan mai mis Ionawr yw mis Carwch Eich Afu, rwyf am gloi drwy ddweud bod gwahoddiad i'r Aelodau fynychu sioe deithiol Carwch Eich Afu gan Ymddiriedolaeth Afu Prydain yn Roald Dahl Plass ddydd Mawrth, 14 Mawrth. Mae’n rhan o ymgyrch godi ymwybyddiaeth genedlaethol i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r ffactorau risg ar gyfer clefyd yr afu ac mae’n rhoi cyfle i Aelodau’r Senedd ddarganfod mwy a chael sgan a sgriniad iechyd yr afu am ddim unrhyw bryd rhwng 10:00 a.m. a 4:00 p.m. Diolch yn fawr.