Dechrau'n Deg

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 17 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:11, 17 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwyf i wedi fy argyhoeddi o fanteision Dechrau'n Deg. Mae'n atal plant rhag dechrau addysg ffurfiol ag oedran datblygiadol sy'n sylweddol is na'u hoedran go iawn. Rydym ni wedi gweld yn Lloegr y Prif Weinidog yn diddymu newidiadau i'r system gofal plant a luniwyd gan ei ragflaenydd. Mewn ardaloedd nad ydynt yn unffurf, mae ardaloedd uwch-allbwn is yn arwain at bocedi o dlodi sy'n cael eu methu. A yw'r Llywodraeth yn bwriadu cynnal ailarfarniad, yn seiliedig ar ganlyniadau cyfrifiad 2021, gyda'r bwriad o nodi'r tlodi plant sy'n cael ei fethu?