Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 17 Ionawr 2023.
Prif Weinidog, cyflwynwyd cynllun Dechrau'n Deg yn ôl yn 2007 fel un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth ar gyfer mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru, ond ar hyn o bryd Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o blant sy'n byw mewn tlodi o'i chymharu â gweddill gwledydd y DU. Prif Weinidog, mae hyn yn gwbl annerbyniol ac yn record ddamniol o 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru. Felly, pa gamau ydych chi'n mynd i'w cymryd i wneud yn siŵr bod Dechrau'n Deg yn cael ei gefnogi'n iawn yn y dyfodol, a phryd fyddwn ni'n gweld canlyniadau go iawn o'r diwedd a diwedd ar y loteri cod post, yn enwedig i fy etholwyr i yn sir Ddinbych?