Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 17 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:04, 17 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Llywodraethau Cymru olynol wedi cefnogi uchelgais y bwrdd iechyd lleol i fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer ysbyty cymunedol yng ngogledd sir Ddinbych. Mae costau cynyddol a chyllidebau cyfalaf sy'n lleihau yn golygu bod yn rhaid ystyried y cynllun yng nghyd-destun buddsoddiadau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws y gogledd yn gyfan gwbl.