Tlodi Digidol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 17 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:30, 17 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Llywydd, wrth gwrs, rwy'n sicr yn hapus i ymchwilio i'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud. Dydw i ddim yn creu atebion o flaen y Senedd; rwy'n dibynnu ar y wybodaeth sy'n cael ei darparu i mi. Roedd y wybodaeth a oedd gen i o fy mlaen yn eithaf pendant yn dweud y byddai'r cyfrifon yn cael eu cyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau ym mis Mawrth eleni. Rwy'n sicr yn hapus i edrych ar y pwynt mae'r Aelod yn ei wneud, ac os oes angen cywiro'r cofnod, yna wrth gwrs fe gaiff hynny ei wneud.