Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 17 Ionawr 2023.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae'r arfer o dynnu esgyll siarcod yn farbaraidd ac yn niweidiol iawn i boblogaethau siarcod ar draws y byd. Mae'n arfer pysgota cwbl anghynaladwy, lle mae rhannau helaeth o garcasau siarcod yn cael eu taflu'n ôl i'r môr ar ôl tynnu'r esgyll gwerthfawr, a ddefnyddir yn bennaf mewn cymunedau Asiaidd.
Mae poblogaethau siarcod yn fyd-eang yn dirywio, a derbynnir yn eang fod yr arfer hwn yn cyfrannu'n sylweddol at hyn. Hoffwn i Gymru fod yn wlad sy'n gwarchod natur, ac i arwain trwy esiampl. Mae'r rheoliad siarcod eisoes yn gwahardd tynnu esgyll siarcod ar fwrdd llongau'r DU sy'n gweithredu mewn dyfroedd morol. Bydd y Bil Esgyll Siarcod yn mynd ymhellach, ac yn gwahardd mewnforio ac allforio esgyll siarcod a dorrwyd ymaith a chynhyrchion sy'n cynnwys esgyll siarcod a dorrwyd ymaith. Mae'r gwaharddiad yn anfon neges glir i weddill y byd nad yw Cymru, ac yn wir, y DU, yn derbyn yr arfer hwn ac ni fydd yn cyfrannu at farchnad fyd-eang sydd ynghlwm â hyn.
Rwy'n cydnabod bod dibenion gwyddonol ac addysgol ar gyfer esgyll siarcod yng Nghymru, ac mae'r Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi tystysgrifau eithrio at y diben cyfyngedig hwn.
Mae'r ail gymal hefyd yn arwyddocaol, gan ei fod yn gwella'r darpariaethau y soniais amdanyn nhw yn y rheoliad ynghylch tynnu esgyll siarcod. Bydd y Bil yn gwahardd torri esgyll siarcod ar fwrdd llongau'r DU sy'n gweithredu y tu allan i ddyfroedd y DU, a llongau nad ydyn nhw yn rhai'r DU sy'n gweithredu yn nyfroedd y DU. Mae'r ddarpariaeth yn golygu bod yn rhaid i bob llong sy'n gweithredu yn y DU lanio pob siarc gydag esgyll ynghlwm yn naturiol wrth gorff y siarc. Bydd llongau'r DU sy'n gweithredu y tu allan i'r DU hefyd yn gweithredu yn unol â rheoliadau tebyg yn Ewrop.
Bydd y cymal olaf, sy'n nodi hyd a lled y Bil yn parhau i fod wedi'i gadw'n ôl i'r Ysgrifennydd Gwladol. O ran y cymal hwn, rwyf wedi mynegi fy siom i'r Ysgrifennydd Gwladol yn dilyn diffyg ymgysylltu â Llywodraeth Cymru pan oedd y Bil yn cael ei ddrafftio gyntaf. Fel rwy'n deall, ychydig iawn o amser a roddwyd gan swyddogion i ystyried y Bil a chwmpas y pwerau datganoledig cyn ei gyflwyno i Dŷ'r Cyffredin. Fodd bynnag, gyda'r Ysgrifennydd Gwladol yn cadw'r pwerau hyn, mae'n golygu na fydd posibilrwydd y bydd bwlch rheoleiddio rhwng y rheoliadau sy'n dechrau yn y DU ac mewn Llywodraethau datganoledig.
Felly, gyda hynny o'r neilltu, rwy'n falch o gael y cyfle i drafod gyda chi i gyd heddiw y Bil hwn, sy'n gam pwysig tuag at gadwraeth siarcod mewn cyfnod pan fo ein gwlad yn wynebu argyfwng natur. Rwy'n ymroddedig i amgylchedd morol sy'n lân, yn ddiogel, yn iach, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol. Rydyn ni wedi cyflawni cymaint yng Nghymru drwy gyfrwng cadwraeth forol, o'n rhwydwaith ardaloedd morol a ddiogelir, lle amddiffynnir 69 y cant o'n glannau a 50 y cant o holl ddyfroedd Cymru, ac mae hyn yn parhau i gynyddu, gyda'r cyhoeddiad a wnes i yn lansio'r broses o ddynodi'r parth cadwraeth forol.
Mae Cymru hefyd yn arwain y ffordd yn gyfrifol o ran moroedd glân. Cyflwynais Fil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) ar 20 Medi 2022, a oedd yn fil uchelgeisiol. Mae'r Bil yn mynd y tu hwnt i wahardd cyfres gychwynnol o gynhyrchion plastig untro a welir mewn rhannau eraill o'r DU, a Chymru yw'r genedl gyntaf yn y DU i gyflwyno cynllun ailgylchu ar gyfer offer pysgota diwedd oes. Mae'r cynllun hwn wedi casglu ac ailgylchu 2.4 tunnell o offer pysgota a allai fod wedi anfon i safleoedd tirlenwi fel arall.
A, Dirprwy Lywydd, byddwn yn gwneud mwy. Yn dilyn yr archwiliad bioamrywiaeth trylwyr a gomisiynwyd gennyf y llynedd, cyhoeddais gyfres o argymhellion y dylid eu hystyried er mwyn cyrraedd y targed 30x30. Ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn dadansoddi'r fframwaith byd-eang newydd a gytunwyd yn COP15 ddiwedd mis Rhagfyr, i nodi pa gamau pellach sydd angen i ni eu cymryd i gyrraedd y targedau eraill yn ychwanegol at 30x30.
Ac yn ogystal â'r broses parth cadwraeth forol y soniais amdani'n gynharach, bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun adfer cynefinoedd, gan ganolbwyntio ar gynefinoedd morfa heli a morwellt ar hyd arfordir Cymru. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i strategaeth cadwraeth gwely'r môr, sydd bellach yn fwy nag erioed yn gwbl hanfodol yn wyneb y bygythiad cynyddol o ffliw adar.
Fodd bynnag, os oes arnom ni eisiau dangos i weddill y byd bod Cymru wedi ymrwymo i gadwraeth forol, mae angen i ni fynd y tu hwnt i'n blaenoriaethau domestig drwy gytuno i'r cynnig a gwahardd mewnforio ac allforio esgyll siarcod rhydd i Gymru a'r DU, sy'n anfon neges glir yn fy marn i nad ydyn ni'n cefnogi'r math hwn o arfer anghynaladwy sydd mor niweidiol i boblogaeth siarcod y byd. Felly, Dirprwy Lywydd, wrth gloi, rwy'n argymell Aelodau i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn cysylltiad â'r Bil Esgyll Siarcod. Diolch.