Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 17 Ionawr 2023.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw.
Dim ond i fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau penodol iawn—a diolch i'r pwyllgor, Huw, am ei waith cyflym ar hyn, fel bob amser—mae gen i ofn nad ydw i'n derbyn yr argymhelliad na'r casgliad y byddai cymal 3 y Bil yn gyfystyr â darpariaeth berthnasol at ddibenion Rheol Sefydlog 29. Ar wahân i gymal 3(5), mae cymal 3 yn cynnwys darpariaethau technegol sy'n ymwneud â sut mae'r Bil yn gweithio, yn hytrach na darpariaethau sylweddol. Ac, fel mater o ymarfer, nid yw Llywodraeth Cymru ar y cyfan yn cynnwys cymalau nad ydyn nhw'n weithredol yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, y gwnaethoch chi gydnabod yn eich ymateb chi, rwy'n credu.
O ran y memorandwm cyd-ddealltwriaeth, rydw i'n derbyn yr argymhelliad hwnnw yn llwyr a chyn gynted ag y bo'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth wedi'i gytuno, caiff ei rannu gyda'r Senedd. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â'ch rhesymeg dros hynny.
O ran pam y mae'r Bil, pam ddim Bil Cymreig, Bil Aelod preifat yw hwn. Pe baem ni wedi penderfynu dilyn y llwybr yr oedd Plaid Cymru yn ei amlinellu, yna byddai gennym ni fwlch rheoleiddio a'r sefyllfa y soniodd Janet Finch-Saunders amdani: byddem wedi gweld glaniadau yma yng Nghymru na fyddem wedi gallu eu stopio tra bod gennym ni fwlch rheoleiddiol. Felly, gan mai Bil Aelod preifat oedd hwn, mae'n gwneud llawer iawn o synnwyr i gyd-fynd â'r broses reoleiddio i wneud yn siŵr nad oes bwlch. Rwy'n cytuno'n llwyr mai dyna'r peth iawn i'w wneud ac rwy'n galw'n daer ar i Aelodau gefnogi hyn heddiw. Fodd bynnag, byddaf yn dweud y byddai'n llawer gwell pe bai Llywodraeth y DU yn ymgynghori'n iawn â ni yn y broses o wneud hyn. Byddem yn gallu dod i gasgliadau llawer gwell gyda'n gilydd nag yr ydym yn ei wneud pan fyddwn yn darganfod pethau'r diwrnod cynt. Felly, er fy mod yn cytuno'n llwyr â mewnforio'r Bil hwn, nid yw'r ffordd y gwnaethon ni ddod i wybod amdano gan Lywodraeth y DU yn ddelfrydol. Felly, os hoffech chi anfon y neges honno'n ôl, Janet, byddai hynny o gymorth mawr yn wir.
Ond i grynhoi, dirprwy Lywydd, anfonodd y Bil neges glir i weddill y byd nad ydym yn cefnogi'r arfer hon o bysgota, sydd mor niweidiol i boblogaethau siarcod y byd. Rwy'n cynnig y cynnig felly ac yn gofyn i bob Aelod ei gefnogi. Diolch.