Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 17 Ionawr 2023.
Rhaid i mi gyfaddef, mae gen i ofn bod yn rhaid i mi anghytuno â'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru ynghylch pam eu bod nhw wedi gosod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw ac rwy’n credu bod hyn yn wastraff amser y Senedd, ac nid fi yw'r unig un sy'n credu hynny. Mae manylion technegol y Bil, fel sydd wedi’u nodi yn atodiad A y nodiadau esboniadol, yn nodi'n glir nad yw Llywodraeth y DU o'r farn bod angen caniatâd gan y Senedd hon ynghylch unrhyw ran o'r Bil hwn, barn sydd wedi’i chydnabod gan Lywodraeth Cymru ym mharagraff 19 o'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Yn ogystal â hyn, nid yw gwasanaethau cyfreithiol y Senedd eu hunain ychwaith yn cytuno ag asesiadau Llywodraeth Cymru bod y cymalau hyn angen caniatâd y Senedd. Ond, os oedd Llywodraeth Cymru wir yn credu bod angen y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, yna fe ddylai fod wedi'i gyflwyno o fewn pythefnos i gyflwyno’r Bil yn Nhŷ'r Cyffredin, nid y saith mis mae wedi cymryd Llywodraeth Cymru i wneud hynny.
O ran y Bil ei hun, mae'r Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) yn ddarn nodedig o ddeddfwriaeth sydd â'r gallu i drawsnewid y diwydiant amaethyddol, gan ein cynorthwyo yn ein cadernid cyfunol yn erbyn rhai o'r heriau mwyaf arwyddocaol sydd o'n blaenau. Boed hynny yn ddiogelwch bwyd, newid hinsawdd, clefyd neu gost, gall bridio manwl fod yn arf yn ein blwch arfau, gan sicrhau dyfodol ein diwydiant amaethyddol am genedlaethau i ddod.
Nawr, mae'n rhaid i ni fod yn glir nad yw bridio manwl yn golygu cnydau wedi'u haddasu'n enetig. Nid ychwanegu geneteg wedi'i addasu'n artiffisial yw hyn. Yn hytrach, mae hyn yn defnyddio dulliau traddodiadol sy'n bodoli eisoes i atgyfnerthu buddsoddiad mewn arloesedd cnydau yn y DU. Mae bridio manwl yn cymryd yr hyn sy'n digwydd yn naturiol dros gannoedd o flynyddoedd ac yn ei hwyluso mewn ffordd reoledig, moesegol a diogel. Mae'r wyddoniaeth hon eisoes yn digwydd. Mae Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, a elwir yn IBERS, wedi arwain gwaith arloesol, yn debyg i waith organebau wedi’u bridio’n fanwl - PBOs - i ddatblygu mathau o laswellt a meillion perfformiad uchel sy'n cael eu defnyddio eisoes gan ffermwyr da byw. Yn anffodus, gallai cibddallineb Llywodraeth Cymru ar PBOs a'r Bil hwn o bosibl weld prifysgolion Cymru, academia Cymru, yn colli allan ar gyfleoedd i fod ar flaen y gad yn yr ymdrechion i fynd i'r afael â diogelwch bwyd byd-eang. Meddyliwch am y cyfle a gollwyd, cael gwared ar y gobaith, o hadau gwenith Cymreig sy’n gwrthsefyll sychder ac afiechydon ddim yn mynd i Affrica Is-Sahara i helpu i ddod â thlodi i ben—canlyniad anfwriadol i beidio â mabwysiadu’r ddeddfwriaeth hon yn cael effaith andwyol aruthrol ar ein rhaglen ddyngarol Cymru ac Affrica.
Felly, o ystyried ei fuddion diamheuol, sy'n berthnasol yn gyffredinol o iechyd y cyhoedd i newid hinsawdd, rwy'n siomedig ac yn rhwystredig bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ymuno â'r Bil y llynedd. Os gall ffermwyr Lloegr gynyddu eu cynnyrch drwy PBOs, yna mae hyn yn gadael ffermwyr Cymru dan anfantais gystadleuol amlwg. Nodais gyda diddordeb bryderon y Gweinidog, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â labelu, masnach a gwyddoniaeth, er, ar y tri, mae gen i ofn, bod rhaid i mi anghytuno'n gryf. O ran y wyddoniaeth, mae DEFRA wedi rhannu'r dadansoddiad technegol gyda chi. Rydych chi'n meddu ar bopeth sydd gan Lywodraeth y DU. Ond eto, er hyn, rydych chi wedi penderfynu dod i gasgliad gwahanol.
O ran masnach, byddwn yn annog y Gweinidog i edrych ar y darlun ehangach. Ni fydd cynhyrchion PBO yn cyrraedd ein silffoedd am o leiaf bum mlynedd ar ôl caniatâd Brenhinol. Yr hyn rydym ni’n ei geisio yw datblygu fframwaith statudol i sicrhau, unwaith y bydd ein partneriaid masnachu yn gwneud yr un datblygiadau, fod gennym ni’r gallu angenrheidiol i ddechrau masnachu gyda'n cymdogion ar unwaith, oherwydd rydym ni’n gwybod bod yr Undeb Ewropeaidd wedi nodi eu bod hwythau'n dymuno dilyn llwybr tebyg i Lywodraeth y DU.
Ac yn olaf, labelu. Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ond yn awdurdodi cynhyrchion i’w gwerthu os ydyn nhw o’r farn nad ydynt yn cyflwyno unrhyw risg i iechyd, nad ydynt yn camarwain defnyddwyr, ac nad oes ganddynt werth maethol is na'r rhai sydd wedi’u bridio’n draddodiadol. Yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol, nid yw PBOs yn peri mwy o risg na'r hyn y byddwch chi'n ei ddarganfod ar hyn o bryd ar silffoedd ein harchfarchnadoedd. Dim risg, ond llawer mwy o wobr—dyna'r cyfle a gollir gan y Llywodraeth Cymru hon.
Felly, Dirprwy Lywydd, er nad ydym ni’n credu bod angen y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, mae o'n blaenau ni heddiw, felly yn weithdrefnol byddwn yn pleidleisio o blaid y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Ond rydym ni wedi ein siomi'n arw gan farn Llywodraeth Cymru ar y Bil hwn ac yn ei hannog i ailystyried ei safbwynt o ddifrif. Diolch.