Part of the debate – Senedd Cymru am 6:32 pm ar 17 Ionawr 2023.
Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad am gael gwared yn eithaf huawdl ar 99.9 y cant o fy araith, felly diolch am hynny. Bydd fy nghyfraniad i, Llywydd, yn un hynod o fyr, achos dydw i ddim yn credu bod angen i ni fynd trwy popeth eto.
Nawr, fe wnes i gymryd rhan yn y gwaith o graffu ar y Bil hwn, a hoffwn dalu teyrnged i'r Cwnsler Cyffredinol am ei bresenoldeb yn y pwyllgor, a natur agored Llywodraeth Cymru wrth ymgysylltu â'r pwyllgor deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad. Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr iawn, ac mae eich presenoldeb yn y pwyllgor bob amser yn cael ei werthfawrogi. Ac rwy'n gwybod fy mod i a chyd-Aelodau wedi mwynhau mynd i fanylion hyn. Felly, dyma'r Bil cydgrynhoi cyntaf o'i fath yn mynd trwy'r Senedd, ac rwy'n credu ei fod wedi mynd yn eithaf didrafferth hyd yn hyn.
Fel y dywedoch chi, Cwnsler Cyffredinol, mae'n ymwneud â chydgrynhoi cyfraith i'w gwneud hi'n fwy hygyrch. Yn yr achos hwn, mae'r Bil yn gwneud hynny, ac rydw i'n meddwl ein bod ni wedi dod i sefyllfa dda yma, rwy'n credu. Fe wnaethon ni gymryd tystiolaeth fanwl iawn gan Gomisiwn y Gyfraith, a phan ddarparodd Comisiwn y Gyfraith y dystiolaeth wych honno, rwy'n credu i mi gael fy argyhoeddi, felly nid wyf yn credu bod rhagor i'w ychwanegu yno. Ond rwyf hefyd yn credu ei bod yn bwysig iawn i ni gofio ei bod hi'n ddyletswydd arnom er mwyn pobl Cymru i lunio deddfwriaeth sy'n ddealladwy, sydd o ansawdd uchel a sy'n berthnasol i'r bobl yma, ac rwy'n credu bod y Bil cydgrynhoi hwn yn gwneud hynny.
Hoffwn hefyd bwysleisio pwysigrwydd y Cwnsler Cyffredinol yn gofyn am ganiatâd gan Weinidogion Llywodraeth y DU draw yn San Steffan, ac, fel rydych chi wedi cadarnhau, rydych chi wedi gwneud hynny, felly mae hynny'n cymryd rhan arall allan o fy araith. Felly, fel y dywedais i, hoffwn ddiolch i chi, Cwnsler Cyffredinol. Felly, ar hyn o bryd, Llywydd, bydd y Blaid Geidwadol yn cefnogi hyn i fynd trwy'r Senedd fel Bil cydgrynhoi. Diolch.