Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 17 Ionawr 2023.
Llywydd, rwyf am ganolbwyntio heddiw ar p’un a ddylai Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) fwrw ymlaen fel Bil cydgrynhoi. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys 14 o argymhellion a phum casgliad, nifer ohonyn nhw'n ymwneud yn uniongyrchol â’r cwestiwn hwn, a'r ail argymhelliad sy'n hawlio ein sylw ar unwaith, am ei fod yn argymell y dylai'r Bil fynd ymlaen fel Bil cydgrynhoi. Ac mae'r argymhelliad hwn yn cael ei gefnogi gan dri o gasgliadau'r pwyllgor, 1, 3 a 4, sy'n datgan boddhad gyda'r Bil o ran ei gwmpas, cydgrynhoi deddfwriaeth bresennol yn gywir yn unol â Rheolau Sefydlog, ac eglurder a chysondeb y cydgrynhoi. Rwy'n falch iawn bod y pwyllgor wedi dod i'r casgliadau hyn ac o'r farn y dylai'r Bil fynd yn ei flaen.
Nawr, gan fod fy amser yn gyfyngedig, hoffwn ganolbwyntio'n gyflym ar ambell i argymhelliad arall sydd o berthnasedd mwy uniongyrchol i'r cynnig a chynnydd y Bil hwn yn y dyfodol, ac, wrth gwrs, byddaf maes o law yn ysgrifennu'n fanwl mewn ymateb i bob un o'r argymhellion gyda'r pwyntiau hynny. Rwy'n hapus i gadarnhau ein bod ni bellach wedi sicrhau holl gydsyniadau Gweinidog y Goron, sef testun argymhelliad 1. Ysgrifennais at y pwyllgor yr wythnos ddiwethaf i roi'r eglurhad ynghylch adran 2(3) o'r Bil, y gofynnwyd amdano yn argymhelliad 10 o'r adroddiad. Rwy’n credu bod y pŵer rheoleiddio yn yr adran honno yn darparu ar gyfer cydgrynhoi boddhaol.
Mae argymhelliad 12 yn gofyn am wybodaeth fanwl cyn gynted â phosibl ar yr is-ddeddfwriaeth y bydd ei hangen i weithredu'r gwaith cydgrynhoi, ac mae fy swyddogion yn datblygu cynllun gweithredu gydag amserlenni, ac mae hyn yn cael ei drafod gyda phartneriaid sydd â diddordeb yn y ddeddfwriaeth. Felly, yn sgil pumed casgliad yr adroddiad, hoffwn nodi, drwy gydol datblygiad y Bil, bod Cadw wedi ymgysylltu â phartneriaid, rhanddeiliaid ac aelodau'r cyhoedd trwy ddosbarthu diweddariadau rheolaidd, cynnal gweithdai a mynychu sesiynau briffio. Nawr, bydd y gwaith hwn yn parhau ac yn dwysáu wrth weithredu'r ddeddfwriaeth. Bydd angen ail-wneud rhywfaint o ddeddfwriaeth uwchradd, a bydd yn rhaid diweddaru canllawiau a gwefannau, a bydd hyn i gyd yn cymryd amser. Rydym ni’n derbyn felly bod amserlen weithredu glir, sy'n ymgorffori'r ddeddfwriaeth eilaidd ofynnol, yn ddymuniad cyn gynted â phosibl. Gobeithio bod hynny'n ateb agwedd benodol yr argymhelliad hwnnw.
Ni fyddaf yn mynd trwy'r argymhellion sy'n weddill nawr, gan eu bod naill ai'n trin materion manwl, yn ymwneud â'r broses gydgrynhoi yn fwy cyffredinol ac felly'n gofyn am fy ystyriaeth bellach—ac, fel y dywedais i, byddaf yn ysgrifennu'n fanwl ar rai o'r pwyntiau hyn—neu maen nhw, mewn gwirionedd, yn cael sylw ym Mhwyllgor Busnes y Senedd; rydw i’n meddwl bod dau ohonyn nhw'n benodol. Felly, byddaf yn ysgrifennu at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch holl argymhellion Llywodraeth Cymru yn fuan, ond byddaf efallai'n oedi yma i ganiatáu i eraill gyfrannu. Ac eto, gyda fy niolch unwaith yn rhagor i'r pwyllgor a holl Aelodau'r Senedd sydd wedi cymryd amser i ystyried y Bil hwn ac adroddiad y pwyllgor ar beth yw, mewn gwirionedd, y cyntaf o'n darnau o ddeddfwriaeth cydgrynhoi mawr. Rwy'n credu bod hwn yn gam pwysig iawn ymlaen i'r Senedd. Diolch, Llywydd.