14. Cyfnod Pleidleisio

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:41 pm ar 17 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:41, 17 Ionawr 2023

Sy'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio am heddiw, ac felly byddwn ni'n symud at bleidleisio oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch. Felly, symudwn ni nawr at y bleidlais gyntaf y prynhawn yma, y bleidlais honno ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, 10 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.