Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 17 Ionawr 2023.
Diolch. Rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru stori dda iawn i'w hadrodd am y gwelliannau yr ydym ni wedi'u gwneud i nifer fawr o dai o fewn ein stoc dai. Byddwch chi'n ymwybodol bod gennym ni stoc dai hen iawn yma yng Nghymru, ac mae wedi bod angen llawer iawn o waith adnewyddu, yn sicr. Yr hyn sydd gan y Gweinidog yw rhaglen dreigl o gynlluniau y mae hi'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol arni o ran effeithlonrwydd ynni.