Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 17 Ionawr 2023.
Diolch. Wel, fel y cyfeirioch chi ato yn eich cwestiwn, mae yna gytundeb meddygon teulu newydd yn cael ei gyflwyno eleni, ac mae hynny ond yn rhan o'r rhaglen dreigl honno, mewn gwirionedd, o ddiwygio sydd gennym ni yma yng Nghymru o'n gwasanaethau gofal sylfaenol. Efallai eich bod chi'n ymwybodol bod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyfarwyddwr gofal sylfaenol newydd, a byddwn i'n eich annog chi i ysgrifennu ati—Rachel Page—i weld, ar yr achos penodol hwnnw, os gall hi ddwyn hynny i gasgliad ffafriol.