3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 17 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:51, 17 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Dros yr wythnos ddiwethaf, mae glaw trwm parhaus wedi effeithio ar Gymru. Mewn rhai mannau, fe welsom ni dros chwe wythnos o law yn ystod pythefnos cyntaf y flwyddyn. Disgynnodd hwnnw ar dir a oedd eisoes yn ddirlawn, gan gynyddu dŵr ar yr wyneb, gan arwain at lefelau uchel iawn yn yr afonydd ledled Cymru. Ers dydd Mercher, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 50 o rybuddion llifogydd a 95 rhybudd llifogydd. Dyna fwy o dystiolaeth eto bod ein tywydd ni'n mynd yn fwyfwy cyfnewidiol ac oherwydd newid hinsawdd y mae hynny. Mae digwyddiadau glaw yn mynd yn fwy difrifol a dwys, ac maen nhw'n digwydd yn fwy rheolaidd.

Yn anffodus, rydym ni wedi cael adroddiadau bod llifogydd wedi effeithio ar 84 o dai, yn ogystal ag effeithiau ar y rheilffyrdd a'r ffyrdd. Mae llifogydd yn brofiad dirdynnol i drigolion, perchnogion busnesau a chymunedau yn gyffredinol, ond yn enwedig felly i berchnogion tai sydd wedi gweld eu cartrefi yn gorlifo â dŵr. Mae fy meddyliau, a meddyliau fy nghydweithwyr, gyda phawb yr effeithiwyd arnyn nhw. O dan y fath amgylchiadau, rwy'n erfyn ar berchnogion tai i wirio eu hyswiriant eto ac ymchwilio i'r risg o lifogydd i'w tŷ. Fe wyddom ni fod lefelau dealltwriaeth a pharodrwydd yn amrywio yn fawr ymysg ein cymunedau. Mae hi'n bwysig bod pob preswylydd yn gwybod ble i gael gafael ar wybodaeth am lifogydd, fel tudalennau gwe 'gweld eich risg llifogydd' Cyfoeth Naturiol Cymru, ac rydym ni'n parhau i weithio gyda'n hawdurdodau rheoli risg i gynyddu ymwybyddiaeth am lifogydd.

Ond er bod effeithiau wedi bod, fe ddylem ni gadw mewn cof y gallai'r llifogydd fod waeth o lawer heb ymdrechion y gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, staff CNC, asiantaethau trafnidiaeth, a gwirfoddolwyr. Mae hi'n hawdd anghofio weithiau, ond mae ein seilwaith ni i gyd yn ddibynnol ar bobl i'w gynnal a'i gadw'n weithredol, yn enwedig yn ystod y tywydd garw. Heb eu hymdrechion nhw, fe allai'r effeithiau i'n cymunedau ni fod yn llawer gwaeth. Ar ran y Llywodraeth, rwyf i am ddiolch o galon i bawb a helpodd yn yr ymateb i'r digwyddiadau diweddar.

Ond mae hi'n bwysig cofio hefyd nad ymateb i lifogydd yn unig mae'r awdurdodau rheoli risg. Maen nhw'n gweithio trwy'r amser i wella ein seilwaith rheoli perygl llifogydd, gan fuddsoddi mewn cynlluniau newydd a gefnogir gan gyllid Llywodraeth Cymru, gan weithio yn barhaus i rymuso ein hasedau hanesyddol ni. Mae'n rhaid iddyn nhw ymdrin hefyd ag etifeddiaeth ein treftadaeth lofaol, megis tomenni glo segur, yn wyneb perygl cynyddol newid hinsawdd.

Yn ystod y tymor Seneddol blaenorol, fe fuddsoddodd Llywodraeth Cymru £390 miliwn mewn rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol. Mae hyn wedi helpu i leihau'r risg o lifogydd i dros 47,000 o dai, drwy greu a rheoli seilwaith a fyddai wedi cael ei brofi yn ystod yr wythnosau diwethaf. Fe fyddwn ni'n ymdrechu bob amser i wneud rhagor. Mae gan ein rhaglen lywodraethu nod eglur ac uchelgeisiol: fe fyddwn ni'n darparu amddiffyniad ychwanegol rhag llifogydd i dros 45,000 o gartrefi yng Nghymru. Nid tasg rwydd fydd honno, ac mae angen buddsoddiad sylweddol ynddi. Wrth i ni geisio cyrraedd y nod hwn, rwy'n falch o gadarnhau bod ein rhaglen rheoli risg arfordirol yn parhau i gyflawni ar gyflymder. Mae gennym ni bum cynllun arfordirol sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, ym Mhorthcawl, Bae Colwyn, Bae Penrhyn, Aberdyfi a'r Mwmbwls. Dyfarnwyd cyllid adeiladu i ddau gynllun arall yn y Rhyl a Phrestatyn, sef cyfanswm o £92 miliwn, ac fe fyddwn ni'n gweld chwe chynllun arall yn nesáu at y gwaith adeiladu dros y flwyddyn nesaf, gan gynnwys Caerdydd, Aberaeron a Bae Hirael.

Nid dim ond buddsoddi mewn cynlluniau mawr yr ydym ni. Eleni, fe dderbyniodd ein grant gwaith ar raddfa fach 90 o wahanol geisiadau, sef cyfanswm o £3.8 miliwn. Mae'r cynllun yn rhoi arian i awdurdodau lleol fynd i'r afael â phroblemau llifogydd sydd o faint llai, a mwy ar wahân. Rydym ni'n amcangyfrif y bydd 3,100 o dai yn elwa ar y cyllid grant hwn. Rydym ni'n cynyddu ein buddsoddiad mewn rheoli risg llifogydd naturiol hefyd. Un o'n rhaglenni ar gyfer ymrwymiadau'r llywodraeth oedd darparu atebion ar sail y byd naturiol ym mhob un o brif ddalgylchoedd yr afonydd. Rydym ni'n buddsoddi mwy na £3 miliwn trwy ein rhaglen rheoli llifogydd yn naturiol, wrth i ni geisio defnyddio prosesau naturiol i storio, arafu ac ymdreiddio dyfroedd llifogydd i leihau perygl llifogydd. Rydym ni'n amcangyfrif y bydd hynny o fudd i tua 800 o dai, gan ddarparu buddion llawer ehangach hefyd megis gwell ansawdd dŵr, cynefinoedd bywyd gwyllt a rheoli tir mewn ffyrdd amgen.

O ran diogelwch tomenni glo, rydym yn parhau i ddarparu rhaglen waith ar y cyd â'n partneriaid. Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth newydd yn ystod y Senedd hon i sefydlu dull cyson o reoli, monitro a goruchwylio tomenni segur ledled Cymru. Fe fydd hyn yn helpu i ddiogelu cymunedau a sicrhau bod pobl yn gallu teimlo yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Rydym ni'n parhau i gomisiynu'r Awdurdod Glo i archwilio tomenni glo segur ystyriaeth uwch. Mae'r bumed rownd o arolygiadau ar y gweill ar hyn o bryd. Mae gennym ni raglen ariannu ar waith i gefnogi awdurdodau lleol i wneud unrhyw waith cynnal a chadw a chyfalaf a nodwyd o'r rhaglen arolygu. Er enghraifft, mae ein cyllid ni'n cefnogi gwaith adfer tipiau Rhondda Cynon Taf ar domen Pendyrus. Ac wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ei fod wedi dechrau ar y gwaith o wella rheolaeth draeniad dŵr wyneb yn nhomen Aberllechau.

Ac nid ydym ni'n llaesu dwylo. Er ein bod ni'n buddsoddi mewn cynlluniau llifogydd newydd yn gyson, rydym ni'n gwybod ei bod hi'n rhaid i ni ddysgu oddi wrth bob achos o lifogydd. Mae hyn oherwydd ein bod ni'n ceisio gwella ein ffyrdd ni o weithio trwy'r amser. Mae pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol annibynnol Cymru, dan gadeiryddiaeth Mr Martin Buckle, wedi bwrw ymlaen â dau wahanol adolygiad rhagnodol ar gyfer ein strategaeth genedlaethol i reoli perygl llifogydd ac arfordirol. Roedd yr adolygiad cyntaf o'r farn fod heriau o ran adnoddau yn wynebu ein hawdurdodau rheoli risg ni. Roedd yr adolygiad yn canfod bod y sector rheoli risg llifogydd, er gwaethaf buddsoddiad parhaus, yn gweld bwlch o ran sgiliau. Roedd y bwlch sgiliau hwn yn amlwg yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae'r adroddiad yn cynnwys argymhellion ynglŷn â sut y gellir mynd i'r afael â'r mater hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r pwyllgor i ddatblygu dewisiadau i fynd i'r afael â'r her hon.

Roedd ail adolygiad y pwyllgor ynghylch ddeddfwriaeth bresennol sy'n rhoi sail i'n polisi rheoli perygl llifogydd ni. Mae natur eithafol stormydd 2020-21 wedi cynyddu'r ddadl ynghylch cyflawni, yn enwedig o ran swyddogaethau a chyfrifoldebau. Rwy'n cydnabod bod y ddeddfwriaeth ynglŷn â rheoli risg llifogydd yn gadarn, ond nid yw hi'n berffaith. Rwyf i am barhau i weithio gyda'r pwyllgor ar unrhyw welliannau posibl y gellir eu gwneud nhw wrth i ni geisio mynd i'r afael â'r heriau a achosir gan newid hinsawdd.

Llywydd, mae hon wedi bod yn wythnos heriol i'r holl bobl a mudiadau sy'n gweithio i'n cadw ni'n ddiogel rhag llifogydd, ond yn arbennig i'r deiliaid tai a'r busnesau hynny yr effeithiwyd arnynt. Rwy'n meddwl amdanyn nhw ar hyn o bryd. Diolch.