Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 17 Ionawr 2023.
Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn dilyn fy nghyfarfod ar 12 Ionawr gydag undebau llafur y GIG. Ysgrifennais at yr undebau ar 6 Ionawr cyn y cyfarfod, gan eu gwahodd i drafod pecyn o fesurau sydd â'r nod o ddod o hyd i ffordd o gynnig rhywfaint o dâl ychwanegol i'r gweithlu fel eu bod yn teimlo eu bod yn gallu dileu eu gweithredu diwydiannol. Awgrymais y gallai'r drafodaeth gynnwys pecyn posib gan gynnwys: ar gyflog, dyfarniad anghyfunol wedi'i ariannu drwy gyllideb Llywodraeth Cymru eleni; ffyrdd y gallwn ni symud ymlaen ar y materion a amlygwyd yn y prosiect lles staff a lleihau'r gwariant ar asiantaethau; a ffyrdd y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i adfer hyder ym mhroses y corff adolygu cyflogau.
Roedd angen dewisiadau anodd er mwyn dod o hyd i'r arian ar gyfer y taliad arian parod untro arfaethedig. Bydd yn rhaid i ni ddefnyddio ein cronfeydd wrth gefn ac aildrefnu gwariant o bob rhan o'r Llywodraeth os yw undebau llafur am fanteisio ar y cyfle hwn. Os byddwn yn defnyddio'r arian hwn nawr i gynyddu cyflogau, mae'n golygu na allwn ni ei ddefnyddio at ddibenion eraill, ond rydym yn hyderus mai dyma'r peth iawn i'w wneud a byddai'n rhoi mwy o arian ym mhocedi gweithwyr y GIG y gaeaf hwn, llawer ohonyn nhw'n ei chael hi'n anodd gyda'r argyfwng costau byw.
Roedd datganiad yr hydref yn gyfle a gollwyd i Lywodraeth y DU roi codiad cyflog yn 2022-23 i weithwyr y sector cyhoeddus sy'n gweithio'n galed, ac atal gweithredu diwydiannol aflonyddgar eang ledled y Deyrnas Unedig. Rhoddodd dyfarniad cyflog 'Agenda ar gyfer Newid' 2022-23, sydd wedi'i weithredu, godiad cyflog o 7.5 y cant ar gyfartaledd i'r staff sy'n derbyn y cyflogau isaf—y rhai hynny ar fandiau 1 i 4—sy'n ffurfio bron i hanner y gweithlu 'Agenda ar gyfer Newid'. I staff ar frig bandiau 6 a 7, roedd y dyfarniad yn cyfateb i godiad cyflog o 4 y cant. Yn anffodus, nid yw ein setliad ariannol yn ddigon ar gyfer yr hyn sydd ei angen i roi'r dyfarniadau cyflog cyfunol y mae'r undebau wedi bod yn ymgyrchu drostynt ar ran eu haelodau. Felly, nid ydym mewn sefyllfa i gynyddu'r dyfarniad cyflog cyfunol a roddwyd eisoes.
Daeth cynrychiolwyr o'r Coleg Nyrsio Brenhinol, GMB, Unite, Unison, Cymdeithas Therapyddion Galwedigaethol Prydain, Cymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion, Cymdeithas y Radiograffwyr, Coleg Brenhinol y Bydwragedd a'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig i'r cyfarfod yr wythnos diwethaf. Hoffwn ddiolch i'r rhai a ddaeth i'r cyfarfod. Roedd llawer o gydnabyddiaeth yn y cyfarfod hwnnw o'r sefyllfa yr ydym yn ein cael ein hunain ynddi yng Nghymru, a chydnabyddiaeth ein bod yn gwneud ymdrechion i ddod â'r anghydfod hwn i ben, yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr.
Roeddwn i'n realistig o ran fy nisgwyliadau ar gyfer y cyfarfod hwnnw, ac er bod yr undebau llafur yn credu nad oedd taliad untro anghyfunol yn ddigon i atal gweithredu diwydiannol, cytunodd yr undebau llafur i fynd i ffwrdd ac ystyried y camau nesaf ar y cyd. Er fy mod wedi clywed yn ôl gan gadeirydd yr undebau llafur iechyd y bore yma, fe gytunon ni, ar y cyd, i beidio â rhoi sylwebaeth gyson ar y trafodaethau, a byddaf yn parchu'r cytundeb hwnnw. Byddaf yn parhau i ymgysylltu ag undebau llafur.
Yn wahanol i Lywodraeth y DU, nid ydym yn ymateb i'r streiciau drwy gyflwyno deddfau newydd, llym a fyddai'n sathru ar y setliad datganoli ac yn cyfyngu ar hawliau gweithwyr ymhellach.
Ar hyn o bryd mae streiciau wedi'u cynllunio yn y GIG yng Nghymru. Mae'r RCN a GMB—gwasanaeth ambiwlans Cymru—eisoes wedi gweithredu'n ddiwydiannol, ac mae gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd a Chymdeithas Siartredig Ffisiotherapi fandad ar gyfer streic, ond dydyn nhw ddim wedi cyhoeddi dyddiadau eto. Bydd Unite—gwasanaeth ambiwlans Cymru—yn streicio yr wythnos hon a'r nesaf, ar 19 a 23 Ionawr. Mae'r RCN bellach hefyd wedi cyhoeddi dau ddiwrnod ychwanegol o streicio ar 6 a 7 Chwefror. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n hundebau llafur, gyda'r bwriad o roi diwedd ar y gweithredu diwydiannol hwn o fewn y dulliau sydd ar gael i ni.
Rydym yn cydnabod ac yn parchu cryfder y teimladau a ddangoswyd gan aelodau staff y GIG yn y pleidleisiau hyn, a thrwy'r camau diwydiannol a gymerwyd, ond rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ag undebau i ystyried ffordd o ddatrys yr anghydfod presennol dros gyflog. Atgoffais yr undebau yn y cyfarfod bod y cloc yn tician ar y mater hwn. Er mwyn cael yr arian i becynnau cyflog y GIG y flwyddyn ariannol hon, mae'n rhaid i ni ddod i gytundeb erbyn tua chanol i ddiwedd Chwefror. Diolch.