5. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Blaenoriaethau Economaidd a Chysylltiadau Llywodraeth y DU

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 17 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:12, 17 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiynau. Fel gŵyr yr Aelod, rydym yn datblygu ein cynllun sgiliau sero net. Mae rhai datganiadau i'w gwneud gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac eraill yn ddiweddarach yn y gwanwyn, ond mae gennyf i ddiddordeb yn y ffordd y gallwn ni gau'r cylch. Mewn gwirionedd, rwyf wedi cael sgyrsiau ychwanegol yn ystod yr wythnos diwethaf am ymateb amrywiaeth o randdeiliaid, darparwyr caffael sgiliau, addysg bellach ac eraill, ond hefyd busnesau—ac ymwybyddiaeth busnes—eu hunain, ac mae'n amrywio mewn gwahanol sectorau. Mae her yma o ran codi ymwybyddiaeth o'r daith i sero net, a'r ffaith y bydd angen i fusnesau ym mhob sector newid rhai o'r ffyrdd y maen nhw'n bwriadu gweithio. Dyna pam y bydd angen nid yn unig dull gweithredu ynghylch beth yw'r polisi, ond codi ymwybyddiaeth, a sut yr ydym yn arfogi pobl a fydd yn dod i fyd gwaith am y tro cyntaf, neu sydd yn agos at ddechrau eu gyrfa, yn ogystal â'r rhai ohonom sydd wedi bod yn y gwaith am gyfnod hirach, a sut rydych chi'n arfogi ac yn ailarfogi'r genhedlaeth bresennol o bobl sydd eisoes mewn gwaith. Ac fe welwch hynny wrth i ni fwrw ymlaen â'r cynllun sgiliau sero net, ond hefyd y gwaith y byddwn wedyn yn ei wneud yn fanylach mewn gwahanol sectorau. Felly, bydd gennyf i fwy i'w ddweud yn y misoedd nesaf, pan fyddwn ni'n lansio'r cynllun mewn gwirionedd, a byddwch chi'n gweld rhywfaint o'r ymgysylltu hwnnw. Ac rwy'n siŵr, gan wisgo eich het arall, nid yn llefarydd y Ceidwadwyr ond yn Gadeirydd y pwyllgor, bydd gennych ddiddordeb mewn rhai o'r ymgysylltiadau. Ac rwy'n edrych ymlaen at y dystiolaeth a'r archwiliad rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor yn ei roi. 

O ran benthyciadau busnes gwyrdd Banc Datblygu Cymru, ni fydd yn rhaid i chi aros llawer hirach; rwy'n credu bod Luke Fletcher wedi gofyn hyn hefyd. Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd y lansiad hwnnw'n digwydd i nodi sut y bydd y banc datblygu yn gallu cefnogi busnesau i leihau costau i arbed y llinell waelod, ac i wneud hynny yn barhaus, i ddatgarboneiddio eu cynhyrchiant, a bydd y swyddogaeth gyngor yn rhan o'r cynllun hwnnw hefyd. Felly, dim llawer hirach i aros. Ond, mae hynny'n dangos ein bod ni'n defnyddio'r pwerau a'r gallu sydd gennym i wneud gwahaniaeth ymarferol. 

Ac o ran cysylltiadau rhynglywodraethol, mae gofyn i Lywodraeth y DU fod yn bartner parod mewn sgwrs. Y cyfarfod a gefais heddiw gyda Gweinidog yn yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, Gweinidog Llywodraeth yr Alban a gwas sifil o Ogledd Iwerddon oedd yr un cyntaf mewn naw neu 10 mis. Nid oherwydd i ni benderfynu peidio â chael y cyfarfodydd; dewis Llywodraeth y DU am amryw o resymau oedd atal y rhain rhag digwydd. Rydym bob amser wedi bod yn barod i ymgysylltu'n adeiladol. Felly hefyd yn y cyfarfod a gefais yn gynharach yr wythnos hon gyda Michael Gove ar amryw o faterion eraill. Rydym ni'n gwybod na fyddwn ni wastad yn cytuno, ond byddai'n llawer gwell gennym ni gael sgwrs ac i wneud hynny mewn cyfnod digon cynnar i wneud gwahaniaeth. Yr hyn yr ydym ni wedi'i ganfod ar wahanol adegau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yw eu bod wedi ymgysylltu â ni ar adeg pan gawn wybod beth yw'r penderfyniad, neu pan fyddant yn mynnu ein bod yn cytuno â pholisi a safbwynt yr ydym yn gwybod na fyddwn yn dod o hyd i gytundeb arnyn nhw. Dyna pam y tynnais sylw yn fy natganiad at feysydd lle bu cytundeb yn bosibl, fel y ffaith ein bod wedi cyfaddawdu ac wedi cytuno ar safbwynt ynghylch porthladdoedd rhydd, i gyferbynnu hynny â'r dull a gymerwyd ar ffyniant cyffredin a'r gronfa ffyniant gyffredin, er enghraifft.

O ran strategaeth arloesi, rwy'n credu fy mod i wedi bod mor glir ag y gallaf i fod: mae'n ymrwymiad yn y cytundeb cydweithredu. Rydym yn disgwyl lansio honno cyn diwedd mis Chwefror, felly, eto, dim llawer hirach i aros. O ran dur, rwy'n croesawu'r hyn yr oedd gan yr Aelodau i'w ddweud sef bod angen eglurder ynghylch dyfodol y sector. Gall hynny ond digwydd pan fo gan Lywodraeth y DU fap ffordd priodol ynglŷn â ffurf buddsoddi ar y cyd a'r math o flaenoriaethau y mae eisiau eu gosod. Ac mae hynny'n bwysig iawn ar draws y sector cyfan, nid yn unig i'r sector dur ei hun, ond yna yr hyn sy'n mynd i ddigwydd ym maes caffael mewn ystod o feysydd eraill lle gallem ac y dylem ni fod yn cael effaith gadarnhaol o weld mwy o ddur sy'n cael ei gynhyrchu ym Mhrydain yn cael ei ddefnyddio mewn ystod o gynhyrchion. Byddai hynny hefyd, yn fy marn i, angen dull gwahanol o fuddsoddi mewn seilwaith hefyd.

Ac o ran gwynt arnofiol ar y môr, eto, maes lle gellid ac y dylid defnyddio dur, rydym wedi bod yn glir iawn yn ein sgyrsiau gydag Ystad y Goron. Rwyf i a Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cwrdd ag Ystad y Goron sawl gwaith, ac rydym ni wedi bod yn glir am yr hyn yr ydym eisiau ei weld gyda ffrwd o rowndiau prydlesu yn y dyfodol, felly nid rhywbeth pryd y ceir cyfle am gyfnod o fisoedd a chyfnod byrrach o flynyddoedd, ond rownd o brydlesu mwy hirdymor, er mwyn i chi allu cael buddsoddiad mwy hirdymor. A byddai hynny, yn fy marn i, yn sail i fuddsoddiad sylweddol yn seilwaith porthladdoedd y gogledd a'r de, er mwyn manteisio'n llawn ar gyfleoedd.

A hefyd rydym wedi bod yn glir iawn gydag Ystad y Goron ein bod eisiau gweld mantais gadarnhaol a gofyniad yn y rownd brydlesu nesaf am gadwyn gyflenwi leol, ac y byddai'n rhaid i geisiadau wedyn gyflawni yn ymarferol. Byddai angen dull contractio i wneud yn siŵr nad yw cais yn ymddangos yn un gwych ar bapur ac yna bod rhywbeth hollol wahanol yn digwydd mewn gwirionedd dros y blynyddoedd nesaf. Ac fe fyddwn i'n credu y byddai'r Aelod ac eraill yn gefnogol i hynny, oherwydd dylai sicrhau ein bod yn cynhyrchu mwy o werth economaidd yn y cadwyni cyflenwi hynny fod yn nod gyffredin ar draws y Siambr.

Ac yn olaf, ar eich pwynt, fe wnaethoch chi sôn am sgiliau ar y diwedd; mae'n un o'r meysydd yr ydym ni wedi buddsoddi ynddo yn gyson. Mae gennym hanes da o ran buddsoddi mewn sgiliau a phrentisiaethau drwy oes datganoli. Mae'n un o'r ysgogiadau sydd gennym i wneud gwahaniaeth. Mae hefyd yn un o'r ysgogiadau lle mae'n anoddach gwneud mwy oherwydd diffyg setliad priodol ynghylch cronfeydd ar ôl ymadael â'r UE. Mae'r £1 biliwn yna rydym ni'n mynd i'w golli yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran sut rydym ni'n cefnogi'r economi, sut rydym ni'n arfogi pobl â sgiliau ar gyfer heddiw, ac ar gyfer yfory, a byddwn i wir yn croesawu gweld y Ceidwadwyr Cymreig yn ymuno â lleisiau o bob rhan o'r Siambr a'r gymdeithas yn ehangach a sectorau eraill i alw ar Lywodraeth y DU i ailedrych ar yr hyn mae wedi ei wneud, ailedrych ar ei addewidion o'r maniffesto a dorrwyd, a rhoi i Gymru yr hyn a addawodd, cyllido llawn sy'n disodli cronfeydd strwythurol yr UE, a byddai hynny'n gwneud gwahaniaeth i'n dyfodol economaidd.