5. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Blaenoriaethau Economaidd a Chysylltiadau Llywodraeth y DU

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 17 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 4:18, 17 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Rwyf am ddechrau drwy gytuno â'r Llywodraeth: mae'n warthus y byddai'n well gan Lywodraeth y DU ymosod ar hawliau gweithwyr nag ymdrin yn effeithiol â'r caledi economaidd y mae'r gweithwyr hynny yn ei wynebu.

Os caf i ddechrau gydag un elfen o'r caledi, sef ynni, dywedodd y Gweinidog nad yw cynllun presennol y DU, er ei fod yn darparu cymorth, rhywfaint o gymorth, yn gwneud dim i ddiogelu rhag anwadalwch prisiau ynni. Nid wyf yn credu y byddwn yn gallu diogelu rhag anwadalwch prisiau yn llawn, ac mewn ffordd nad yw'n sybsideiddio cyfranddalwyr yn y sector preifat, oni bai ein bod yn gwladoli'r sector ynni. Gobeithio y byddai'n cytuno â'r egwyddor honno.

Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu lleihau'r gefnogaeth i fusnesau bach drwy'r cynllun rhyddhad ar filiau ynni yn sylweddol, sy'n gadael busnesau bach yng Nghymru yn wynebu costau ynni uchel ofnadwy. Rydym wedi clywed eisoes bod un o bob pedwar busnes yn ystyried cau neu werthu os nad oes cynllun rhyddhad ar filiau ynni newydd yn cymryd ei le. Mae'r cyhoeddiad gan y Llywodraeth ar y cynllun benthyciadau busnes gwyrdd i'w groesawu'n fawr ac mae'n rhywbeth yr wyf i fy hun, Plaid Cymru, a grwpiau rhanddeiliaid arwyddocaol fel Ffederasiwn y Busnesau Bach ac UKHospitality wedi bod yn galw amdano, ond, hefyd, mae'r Ffederasiwn wedi bod yn galw am weithredu cynllun talebau 'cymorth i wyrddu' gan Lywodraeth y DU, wedi'i fodelu ar y cynllun 'Cymorth i Dyfu: Cynllun Digidol', er mwyn helpu busnesau i ddatgarboneiddio. O ystyried cyfarfodydd rhyngweinidogol diweddar y Gweinidog, a fyddai'n codi'r mater hwn gyda Llywodraeth y DU a'u hannog i weithredu cynllun o'r fath i redeg ochr yn ochr â chynllun benthyg yma yng Nghymru?

Ac wrth gwrs rwy'n gwybod bod y Gweinidog eisoes yn codi'r materion sy'n ymwneud â dur. Mae Plaid Cymru yn ei gefnogi wrth alw ar Lywodraeth y DU i gamu i'r adwy a darparu'r gefnogaeth sydd ei hangen ar gyfer datgarboneiddio'r sector. Rydym ni'n gwybod bod dur yn hanfodol i ddatgarboneiddio'r economi; mae angen dur arnom i adeiladu mathau adnewyddadwy o gynhyrchu ynni, fel gwynt ar y môr y soniodd y Gweinidog amdano. Dyna pam mae'n hanfodol y ceir cyllid i gefnogi datgarboneiddio dur. Mae ceisio datgarboneiddio, wrth gwrs, yn cael ei wneud yn anoddach gan y ffaith bod gwneuthurwyr dur y DU yn talu 30 y cant yn fwy am eu trydan na'u cymheiriaid yn yr Almaen, a hyd at 70 y cant yn fwy na'u cymheiriaid yn Ffrainc. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi datganiad manylach i'r Siambr mewn cysylltiad â'i drafodaethau gyda Llywodraeth y DU o ran y sector dur.

Nawr, rydym ni wedi clywed sôn am borthladdoedd rhydd yn natganiad y Gweinidog heddiw, yn ogystal ag yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Rwyf wedi bod yn glir ynghylch fy sefyllfa o ran porthladdoedd rhydd; nid wyf yn credu mai nhw yw'r ateb i'n problemau ni. Roedd Cyngres yr Undebau Llafur nôl yn 2020 yn dweud nad oes tystiolaeth bod porthladdoedd rhydd yn creu swyddi nac yn ysgogi twf. Gallwn fynd ymlaen, ond mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi rhagweld y bydd manteision treth mewn porthladdoedd rhydd yn Lloegr yn costio £50 miliwn y flwyddyn. A yw'r Llywodraeth wedi gwneud asesiad o'r goblygiadau yma yng Nghymru?

Tybed a allai'r Gweinidog hefyd roi eglurder ynghylch y rhan y mae'n ei chwarae yn y penderfyniad ar ba borthladd rhydd fydd yn cael ei ddatblygu yng Nghymru, yn ogystal â pha ran fydd gan y Senedd wrth graffu ar y penderfyniad. Rwy'n gwybod ei fod yn benderfyniad ar y cyd rhyngddo ef ac un o gyd-Weinidogion Llywodraeth y DU, ond, os bydd anghytuno, a fydd ganddo'r gair olaf? Ond hefyd a fydd Aelodau yn y Siambr hon yn cael pleidlais ar y penderfyniad, neu bleidlais ynghylch a ydym eisiau porthladdoedd rhydd o gwbl hyd yn oed?