Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 17 Ionawr 2023.
Dirprwy Lywydd, mae'r rhaglen yn wirioneddol drawsbynciol ac wedi rhoi llwyfan i ymgorffori'r Gymraeg yn ogystal â pholisïau eraill, er enghraifft teithio llesol, bioamrywiaeth, TGCh, cymuned a chwricwlwm, cyflawni a manteisio i'r eithaf ar werth o fuddsoddiadau ar draws ein hystad addysg ac, wrth wneud hynny, mae wedi darparu model cynaliadwyedd i eraill ei ddilyn.
Fel un o'r cenhedloedd cyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd a'r bwriad i fod yn genedl carbon isel, rwyf wedi mandadu y byddai'n ofynnol i bob prosiect newydd a gefnogir drwy'r rhaglen gyflawni carbon sero net wrth weithredu, ynghyd â gostyngiad o 20 y cant mewn carbon wedi'i ymgorffori. Ddeuddeg mis ers y mandad hwn, rwy'n falch o gadarnhau bod 16 prosiect wedi'u cymeradwyo ac yn symud ymlaen fel prosiectau carbon sero net. Hoffwn ganmol ein partneriaid cyflenwi ar ymgymryd â'r her a datblygu prosiectau sero net mewn ffordd mor gadarnhaol, a phob rhanbarth ledled Cymru yn mabwysiadu'r meddylfryd, o Ysgol y Graig ar Ynys Môn yn y gogledd, Ysgol Cedewain ym Mhowys, i Ysgol y Deri ym Mro Morgannwg yn y De.
Yn ogystal â chefnogi pob rhanbarth yng Nghymru, mae'r rhaglen yn cael effaith gadarnhaol ar draws pob sector o'r byd addysg. A'r ffaith mai Ysgol Gynradd South Point yw'r ysgol garbon sero net gyntaf yng Nghymru, rydym bellach yn gweld prosiectau ar gyfer ysgolion uwchradd, ysgolion pob oed, ac ysgolion arbennig yn ogystal â cholegau. Mae ysgolion arbennig yn cyflwyno her ychwanegol o ran cyflawni carbon sero net oherwydd offer arbenigol, a thrwy hynny, gynyddu'r galw am drydan. Fodd bynnag, gallaf gadarnhau bod tri phrosiect ysgol arbennig wedi'u cymeradwyo ar hyn o bryd i symud ymlaen tuag at gyflawni ein huchelgais carbon sero net, a bydd gwersi a ddysgwyd o'r prosiectau hyn yn bwydo i mewn i brosiectau llwybrau eraill ar ein taith i sero net.
Maes heriol arall, Dirprwy Lywydd, yw cyrraedd carbon sero net ar brosiectau adnewyddu, a gallaf gadarnhau mai ein prosiect adnewyddu sero net cyntaf fydd Ysgol Uwchradd Pen y Dre ym Merthyr Tudful. Bydd Pen y Dre yn ymgymryd â gwaith adnewyddu dwfn yn yr ysgol bresennol, gan dynnu'r ffabrig yn ôl i'r ffrâm strwythurol. Gall y carbon ymgorfforedig a arbedir drwy gadw'r sylfeini, y slabiau llawr a'r fframwaith strwythurol arbed cymaint â 48 y cant o garbon yn unig. Rydym yn disgwyl llawer i'w ddysgu o'r prosiect hwn a fydd yn cyfrannu at darged ailddefnyddio adeiladau'r rhaglen o 60 y cant.
Mae angen i ni sicrhau bod ymrwymiadau cynaliadwyedd a datgarboneiddio yn dod yn rhan annatod o'n bywyd bob dydd. Mae hyn yn arbennig o wir am aelodau iau ein cenedl. Mae angen i ni ddarparu ffyrdd effeithiol er mwyn iddynt ddeall yr amgylchedd sydd o'u cwmpas, gan gynnwys yr adeiladau y maen nhw'n dysgu ynddynt. Rwyf wedi siarad yn y Siambr, Dirprwy Lywydd, yn y gorffennol, am fy nisgwyliad i awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach a'u timau dylunio i weithio'n agos gyda'n plant, pobl ifanc a staff fel eu bod yn cael y cyfle i helpu i ddylunio eu hamgylchedd dysgu eu hunain. Mewn ymateb, fis Medi diwethaf, cyhoeddais yn ffurfiol lansiad her ysgolion cynaliadwy. Gan adeiladu ar fandad carbon sero net y rhaglen, gwahoddwyd ceisiadau gan awdurdodau lleol sy'n gallu dangos gwaith dylunio, datblygu, darparu a rheoli dwy ysgol newydd a allai wneud cyfraniad cadarnhaol i'r amgylchedd, y gymuned a'r dirwedd gyfagos. Mae'n bleser gennyf ddweud heddiw fod yr her hon wedi cael croeso brwd gan awdurdodau lleol, gydag 17 o geisiadau prosiect wedi'u derbyn. Mae swyddogion bellach yn cael eu cefnogi gan gynrychiolwyr y sector allanol wrth asesu'r cyflwyniadau, ac edrychaf ymlaen at gyhoeddi'r prosiectau llwyddiannus yn ystod yr wythnosau nesaf.