Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 17 Ionawr 2023.
Diolch, Weinidog am y datganiad heddiw. Yn amlwg, mae yna nifer o bethau i'w croesawu fan hyn. Rydyn ni'n bendant yn cytuno o ran yr angen i uwchraddio nifer o ysgolion. Rydyn ni'n gwybod, o fynd ledled Cymru ac ymweld ag ysgolion, bod yna ysgolion sydd ddirfawr angen buddsoddiad. Mae hwn yn rhan bwysig o ran sicrhau yr amgylchedd ddysgu, sydd hefyd mor bwysig, fel rydych chi wedi amlinellu, o ran gallu dylanwadu ar bresenoldeb yn yr ysgol, ac ati, os oes yna adnoddau yna. Rydyn ni hefyd wedi trafod yn flaenorol y manteision o ran cymunedau pan fo yna adnoddau sy'n gallu cael defnydd cymunedol y tu hwnt i oriau ysgol.
Yn debyg iawn i James Evans, mi fyddwn i'n hoffi canolbwyntio jest yn benodol o ran addysg Gymraeg, os caf i ddychwelyd at hynny. Roeddwn i'n falch o glywed beth roeddech chi'n ei ddweud yn eich ymateb i James o ran cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, oherwydd, yn sicr, rydych chi wedi clywed, gan amryw ohonom ni yr ochr yma i'r Siambr, esiamplau yn ein rhanbarthau ni lle rydym ni wedi teimlo, ar adegau, bod y buddsoddiad wedi bod yn ormodol felly mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, a phan mae yna ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn aml bod y rheini'n cael eu hadeiladu mewn cymunedau gwahanol i'r rhai lle'r oedd yna ysgol Gymraeg, a bod yna ysgolion cyfrwng Saesneg newydd yn mynd yno, a bod yna beryg mawr. Rydyn ni wedi clywed gan rieni eu bod nhw'n gwneud y dewis hwnnw o ran gyrru disgyblion i ysgolion cyfrwng Saesneg, gan felly adael addysg Gymraeg. Felly, byddwn i yn hoffi gwybod mwy, os gwelwch yn dda, o ran sut bydd y buddsoddiad pellach hwn—. Sut byddwch chi'n sicrhau bod y Gymraeg yn flaenoriaeth i awdurdodau a'n bod ni'n edrych, lle mae yna draddodiad wedi bod, yn arbennig o ran addysg Gymraeg—sut ydym ni'n sicrhau bod hynny ddim yn cael ei golli os oes yna ysgol cyfrwng Saesneg newydd yn dod mewn ardal?
Yn debyg iawn hefyd, rydym ni wedi trafod amryw o weithiau o ran trafnidiaeth, o ran yr adnoddau, fel bod pawb yn gallu manteisio ar hynny. Dwi'n gwybod bod hynny'n rhywbeth i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ond yn amlwg mae hyn yn mynd i fod yn elfen bwysig. A gyda chostau trafnidiaeth yn cynyddu hefyd, dwi'n meddwl bod yna rywbeth ehangach i sicrhau hynny.
Un o'r pethau rydym ni'n ei wybod o ran prosiectau fel hyn yn aml ydy eu bod nhw'n gallu cymryd amser hir. Dwi'n falch o glywed sut rydych chi'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd o ran amserlen ac ati—mae hynny'n sicr i'w groesawu. Ond, ar gyfer yr ysgolion hynny sydd ddim, efallai, yn llwyddiannus y tro yma, a bydd hi’n cymryd, efallai, blynyddoedd iddyn nhw allu cael y buddsoddiad sydd ei angen, ydych chi hefyd yn edrych fel Llywodraeth o ran sut rydyn ni'n defnyddio adnoddau cymunedol sydd yn bodoli eisoes, megis llyfrgelloedd neu amgueddfeydd lleol, sydd efallai wedi derbyn buddsoddiad? Mae yna brosiectau wedi bod yn y gorffennol, megis yn Abertawe, lle mi oedd yna brosiect llwyddiannus iawn o ran cael ysgol mewn amgueddfa, yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, am dymor cyfan, a manteision felly o ran defnyddio asedau cymunedol. Yn amlwg, mae nifer o'r rhain o dan fygythiad rŵan, ond pan ydych chi'n sôn am nifer o ysgolion yn dal efo portakabins sydd efallai wedi gweld dyddiau gwell ac sydd yn mynd i fod yno am flynyddoedd, oes yna ffordd inni edrych hefyd o ran sut rydyn ni'n gallu defnyddio asedau cymunedol mae ysgolion yn gallu cerdded iddyn nhw, fel ein bod ni hefyd yn gallu rhoi dyfodol cynaliadwy i bethau fel amgueddfeydd a llyfrgelloedd lleol, a hefyd wrth gwrs, yn cyfoethogi o ran y cwricwlwm, y manteision sydd yna felly? Dim ond i ofyn a ydy hynny yn rhywbeth rydyn ni'n edrych arno fo, yn enwedig o weld y bydd hi'n ofnadwy o dynn ar awdurdodau lleol. Rydyn ni'n gwybod bod costau prosiectau fel hyn yn mynd i fod yn cynyddu oherwydd chwyddiant, felly oes yna bethau amgen rydyn ni'n gallu eu gwneud? Mi wnaf i ei gadael hi'n fanna am rŵan. Diolch, Weinidog.