Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 17 Ionawr 2023.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'r pwyllgor, fel rŷch chi'n gwybod, wedi ystyried y tri memoranda ar gyfer y Bil ac wedi cyhoeddi dau adroddiad. Mi osodwyd yr un diweddaraf ddoe, a dwi'n hyderu bod Aelodau wedi cael cyfle, ar fyr rybudd, wrth gwrs, i fwrw golwg ar hwnnw.
Cyn troi at y darpariaethau sy'n arbennig o berthnasol i gylch gorchwyl y pwyllgor, ac at y mater o gydsyniad, hoffwn i ddweud ychydig o eiriau am y broses graffu. Fydd hyn efallai ddim yn ddiarth i nifer ohonoch chi, oherwydd fydd y pwyntiau dwi eisiau eu codi ddim yn newydd i Aelodau, ond dyw hynny, wrth gwrs, ddim yn golygu eu bod nhw'n llai pwysig mewn unrhyw ffordd.
Mae memorandwm Rhif 1 a Rhif 2, a osodwyd yr haf diwethaf, yn nodi pryderon Llywodraeth Cymru am y Bil—pryderon sy'n cael eu rhannu gan y pwyllgor, wrth gwrs. Ar y pryd, fe roddodd y Gweinidog sicrwydd ei bod yn trafod gwelliannau i fynd i'r afael â nhw, felly fe wnaethom ni ohirio penderfyniad ar y mater o gydsyniad.
Mae memorandwm Rhif 3, a gyfeiriwyd atom ni ychydig cyn toriad y Nadolig, yn rhoi manylion y gwelliannau a drafodwyd rhwng y Llywodraethau ac y cytunwyd arnyn nhw wedi hynny. Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r gwelliannau hyn, fel clywon ni nawr, yn gyfaddawd rhesymol, felly mae bellach yn gofyn i'r Senedd roi cydsyniad i'r Bil. Mae'r ffaith bod y gwelliannau wedi cael eu gwneud mor hwyr yn ystod hynt y Bil yn golygu dau beth, wrth gwrs: yn gyntaf, bod yr amser a oedd ar gael i ni gyflwyno adroddiad ar y memorandwm yn gyfyngedig, ac, yn ail, bod yr amser a oedd ar gael i'r Aelodau wedyn i ystyried ein canfyddiadau ni yn gyfyngedig cyn gofyn i Aelodau ffurfio barn ar gydsyniad.
Yn ogystal â hyn, mae'n deg dweud nad oes gobaith y bydd gwelliannau pellach yn cael eu gwneud i'r Bil i fynd i'r afael â'n pryderon ni fel pwyllgor, sydd, ar y cyfan, yn dal i fodoli. Mi wnaf i ddod at y rheini mewn eiliad, ond, unwaith eto, mae hyn yn dangos, onid yw e, annigonolrwydd y broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol.
Felly, fe wnaf i symud ymlaen at y darpariaethau sydd o ddiddordeb arbennig i ni fel pwyllgor. Un o ddau amcan statudol y banc yw helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Nawr, rŷn ni’n gwybod, os yw Cymru am ddod yn genedl sero net erbyn 2050, fod angen buddsoddiad seilwaith sylweddol gan y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae'n bosib y gallai'r banc chwarae rhan bwysig wrth gynyddu a chyflymu y buddsoddiad hwnnw. O ystyried hyn, rŷn ni’n cefnogi creu'r banc mewn egwyddor.
Mae amcanion y banc yn ganmoladwy, ond mae yna ddiffyg amlwg, sef mynd i'r afael â'r argyfwng natur. O ystyried y dirywiad enbyd ym myd natur, a’r ffaith bod yr inc ond newydd sychu ar gytundeb y Cenhedloedd Unedig a ddaeth yn sgil COP15, mae’n siomedig iawn bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi diystyru cynnwys amcan natur yn benodol. Mae'r Gweinidog wedi rhoi sicrwydd y bydd y Bil, fel y'i drafftiwyd, yn galluogi buddsoddi mewn atebion sy'n seiliedig ar natur a bioamrywiaeth. Er bod hyn efallai yn galonogol—wrth gwrs, mae e—ond dyw e ddim yn cyfateb i amcan natur statudol.
O ran ein pryderon eithriadol eraill ni am y Bil, mewn memoranda cynharach, fe ddywedodd y Gweinidog ei bod yn galw am ddiwygio’r Bil
'er mwyn galluogi’r Senedd a Gweinidogion Cymru i gymryd eu rôl briodol o fewn strwythurau llywodraethiant [y banc] er mwyn sicrhau atebolrwydd democrataidd priodol.'
Fe ddywedodd y byddai’r gwelliannau
'yn darparu rolau i Lywodraeth Cymru ac i’r Senedd sy’n cyfateb i rolau eu cymheiriaid yn y Deyrnas Unedig.'
Nawr, rŷn ni wedi cael blas gan y Gweinidog ar rai o’r gwelliannau roedden ni’n galw amdanyn nhw wrth agor y ddadl, ond, cyn hynny, wrth gwrs, doedd y Gweinidog ddim yn barod i rannu manylion y gwelliannau roedd hi'n galw amdanyn nhw gyda phwyllgorau’r Senedd. Roedd hyn ar y sail bod trafodaethau rhynglywodraethol yn parhau o hyd. Nawr, dyna ni; mae hwn eto, onid yw e, yn gofyn cwestiwn ynglŷn â’n rôl ni fel Senedd yng nghyd-destun y broses yma.
Nawr, wrth gwrs, mae’n rhaid ymgynghori, os dwi’n deall yn iawn, â Gweinidogion Cymru cyn y gall Gweinidogion y Deyrnas Unedig arfer pwerau mewn perthynas ag amcanion a gweithgareddau'r banc, a blaenoriaethau a chynlluniau strategol. Wel, dyw hyn, yn sicr, ddim hyn yn rôl gyfatebol, fel yr hyn roedden ni’n chwilio amdano fe. A beth am rôl y Senedd? Yn syml, dyw’r Bil ddim yn darparu rôl i’r Senedd. Gadewch i ni fod yn glir ynghylch beth mae hynny wedyn yn ei olygu—mae’n golygu bydd Senedd y Deyrnas Unedig, yn hytrach na Senedd Cymru, yn craffu ar sut y mae pwerau mewn meysydd cymhwysedd datganoledig yn cael eu defnyddio, a nhw fydd yn goruchwylio effeithiolrwydd y banc i’r graddau mae'n ymwneud â Chymru.
Felly, ar ôl ystyried y Bil, fel y'i diwygiwyd, mae gennym bryderon o hyd am rôl gyfyngedig Gweinidogion Cymru o ran strwythurau llywodraethiant y banc, a’r ffaith, wrth gwrs, nad oes rôl wedi’i darparu ar gyfer y Senedd. Felly, Dirprwy Lywydd, o ystyried hyn, dyw’r pwyllgor ddim mewn sefyllfa i argymell bod y Senedd yn cydsynio i’r Bil.
Gaf i newid fy het nawr? Oherwydd dwi’n deall bod un cyfle gyda fi i gyfrannu, gaf i siarad fel llefarydd Plaid Cymru mewn brawddeg? Ie. Dim ond i ddweud, wrth gwrs, yn unol â’r arfer, mi fydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y cydsyniad, ond mae nifer o’r gofidiau sydd ymhlyg yn yr hyn dwi wedi dweud yn y rôl arall sydd gyda fi yn y ddadl yma yn ddilys yn hyn o beth hefyd. Diolch.