9. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 17 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 5:23, 17 Ionawr 2023

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rydym wedi llunio dau adroddiad sy'n cwmpasu'r tri memorandwm cydsyniad sydd wedi'u gosod gan y Gweinidog ar y Bil hwn—cwblhawyd y cyntaf fis Hydref diwethaf, a gosodwyd yr ail brynhawn ddoe. Nid yw'r un o'n hadroddiadau’n cynnwys nifer helaeth o gasgliadau neu argymhellion, felly bydd fy sylwadau yn y ddadl hon yn fyr iawn.