– Senedd Cymru am 5:31 pm ar 17 Ionawr 2023.
Byddwn nawr yn dychwelyd at eitem 8, a galwaf ar y Gweinidog i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8179 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Rhagfyr 2022.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno'r rheoliadau diwygio hyn heddiw. Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023 yn diwygio rheoliadau Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2013. Mae'r cynllun yn darparu cymorth uniongyrchol i aelwydydd ledled Cymru drwy leihau eu biliau treth gyngor, ac mae'r gwelliannau hyn yn sicrhau y gall bobl barhau i hawlio'r hyn sy'n ddyledus iddyn nhw.
Llwyddodd Llywodraeth y DU i ddiddymu budd-dal treth gyngor ar 31 Mawrth 2013 a phasiodd y cyfrifoldeb o ddatblygu trefniadau newydd i Lywodraeth Cymru. Ynghyd â phenderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig roedd toriad o 10 y cant i'r cyllid ar gyfer y cynllun. Ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy gau'r bwlch cyllido, er mwyn cynnal yr hawl i gael cymorth hyd 2013. Rydym ni wedi parhau i gefnogi'r hawl hwnnw bob blwyddyn ers hynny. Mae'r cynllun ar hyn o bryd yn rhoi cymorth i tua 268,000 o'r cartrefi tlotaf yng Nghymru. Wrth i'r argyfwng costau byw barhau i osod pwysau a chaledi cynyddol ar bobl Cymru, mae'n bwysicach fyth ein bod yn sicrhau bod y systemau sydd ar waith i'w cynnal mor deg ag y gallant fod a'u bod yn parhau'n gyfredol.
Mae angen deddfwriaeth ddiwygio bob blwyddyn i sicrhau bod y ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl pob cartref i ostyngiad yn cynyddu er mwyn adlewyrchu cynnydd yng nghostau byw. Mae rheoliadau 2023 yn ffurfio'r addasiadau uwchraddio hyn ac yn cynnal yr hawliau sy'n bodoli eisoes i gael cymorth. Mae cynnydd yn y ffigurau ariannol ar gyfer 2023-24 sy'n ymwneud â phobl o oedran gweithio, pobl anabl a gofalwyr yn unol â mynegai prisiau defnyddwyr mis Medi—10.1 y cant. Mae cynnydd yn y ffigurau'n ymwneud ag aelwydydd pensiynwyr yn unol ag isafswm gwarant safonol Llywodraeth y DU ac yn adlewyrchu'r broses o gynyddu'r budd-dal tai.
Rwyf hefyd wedi manteisio ar y cyfle i gynnwys mân newidiadau technegol ac i wneud gwelliannau ychwanegol i adlewyrchu newidiadau eraill i fudd-daliadau cysylltiedig. Er enghraifft, rwy'n diwygio'r rheoliadau i sicrhau na fydd pobl sy'n cyrraedd o Wcráin, sy'n ffoi rhag rhyfel ac sydd angen cefnogaeth, yn cael eu trin fel rhai nad ydyn nhw'n byw fel arfer yn y DU. Mae hyn yn golygu, pan fo hynny'n gymwys, y byddan nhw'n gallu cael mynediad i'r cynllun hwn. Mae gwelliant pellach yn sicrhau nad effeithir ar filiau treth gyngor aelwydydd yng Nghymru sy'n croesawu pobl o dan gynllun Cartrefi i Wcráin gan eu cynnig i roi cymorth i bobl o Wcráin. Ac yn olaf, rydyn ni wedi dileu'r eithriad i ddinasyddion ardal economaidd Ewrop, sydd bellach yn destun rheolaeth mewnfudo, i adlewyrchu'r rheoliadau yn Lloegr.
Mae'r rheoliadau hyn yn cynnal yr hawl i gael gostyngiad ar filiau'r dreth gyngor i gartrefi yng Nghymru. O ganlyniad i'r cynllun hwn, bydd yr aelwydydd mwyaf tlawd sy'n derbyn y cynllun gostyngiad yn parhau i dalu dim treth cyngor yn 2023-24. Mae'r cynllun hwn yn parhau i fod yn gonglfaen i'n cymorth wedi'i dargedu ar gyfer aelwydydd, yn enwedig y rhai sy'n dioddef fwyaf o effeithiau'r argyfwng costau byw.
Yn olaf, rwy'n ddiolchgar am adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Fel yr amlinellir yn ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hwnnw, bydd y ddau fân gamgymeriad technegol yn y rheoliadau yn cael eu cywiro cyn gwneud y rheoliadau, ac rwy'n gofyn i Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, eto, a diolch, Gweinidog, hefyd. Gwnaethom ystyried y rheoliadau hyn ar 9 Ionawr, ac mae ein hadroddiad wedi'i osod i lywio'r Aelodau y prynhawn yma.
Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio, fel yr oedd y Gweinidog yn ei ddweud, rheoliadau 2013 i gynyddu rhai ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl ymgeisydd i ostyngiad o dan gynllun lleihau treth gyngor.
Roedd ein hadroddiad ar y rheoliadau hyn yn cynnwys, fel y soniodd y Gweinidog, dau bwynt technegol, a diolch i'r Gweinidog am ddarparu ymateb amserol. Roedd y pwynt adrodd technegol cyntaf yn tynnu sylw at yr hyn a ystyriwyd yn fater bach wrth ddrafftio fersiwn Gymraeg y rheoliadau.
Nododd ein hail bwynt adrodd technegol anghysondeb rhwng y testunau Saesneg a Chymraeg yn rheoliad 13 y rheoliadau. Cytunodd y Gweinidog gyda'r pwyntiau adrodd hyn. Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r gwallau hyn yn dechnegol eu natur, ac yn wir, dywedwyd wrthym ni y byddai'r rhain yn cael eu cywiro cyn llunio'r offeryn.
Felly, Gweinidog, diolch am gadarnhau i'r Siambr y gwneir y cywiriadau hyn fel yr awgrymwyd, ac am ymateb mor gadarnhaol i'n hadroddiad.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb.
Rwy'n ddiolchgar i Gadeirydd y pwyllgor am y sylwadau yna, ac, fel y dywedais, byddwn yn gwneud y newidiadau angenrheidiol hynny.
Dim ond i ailadrodd, mewn gwirionedd, y ffaith bwysig y bydd y rheoliadau'n sicrhau y bydd y ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl aelwyd i ostyngiad yn ei bil treth gyngor yn ystyried y cynnydd yng nghostau byw. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn yn y cyd-destun rydyn ni ynddo ar hyn o bryd. Ac wrth gwrs, bydd y gwelliannau technegol a rhai canlyniadol hefyd yn galluogi i gynlluniau i leihau'r dreth gyngor yng Nghymru gael eu gweinyddu'n effeithiol ac effeithlon.
Hoffwn hefyd atgoffa cyd-Aelodau bod angen diwygio rheoliadau bob blwyddyn i sicrhau bod pob aelwyd gymwys yng Nghymru yn cadw'r hawl i gael cymorth. Ac, fel yr amlinellir yn fy natganiad ar yr ymateb i'n hymgynghoriad ar dreth gyngor decach ym mis Rhagfyr, cyhoeddais grynodeb o ymatebion i hynny, a chawsom dros 1,000 o ymatebion, gan adlewyrchu ystod eang iawn o safbwyntiau a diddordebau, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithredu'r agenda honno ochr yn ochr â chyd-Aelodau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.