Amseroedd Ymateb Ambiwlansys

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 24 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:30, 24 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i Jane Dodds, Llywydd, am y cwestiwn yna. Mae'r lefelau uchaf erioed o alw wedi rhoi pwysau gwirioneddol ar amseroedd ymateb ambiwlansys, gydag oediadau hir i rai cleifion. Serch hynny, ym mis Rhagfyr—y mis anoddaf—ymatebodd y gwasanaeth i'r nifer uchaf erioed o alwadau coch o fewn y targed o wyth munud.