Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 24 Ionawr 2023.
Prif Weinidog, gan droi at wasanaethau bysiau, sef, wrth gwrs, y rhan o'n system trafnidiaeth gyhoeddus sy'n cael ei defnyddio fwyaf, ac, yn amlwg, yng ngoleuni'r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn datblygu ei chynigion ar gyfer newid deddfwriaethol a model newydd ar gyfer rhedeg gwasanaethau bysiau, mae arwyddion llafar yn un ateb i alluogi pobl sydd wedi colli eu golwg gael gafael ar wybodaeth deithio ar safleoedd bws. A roddwyd unrhyw ystyriaeth i gyflwyno cynlluniau tebyg yma yng Nghymru yng ngoleuni'r cynigion ynghylch dyfodol ein gwasanaethau bysiau?