Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 24 Ionawr 2023.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Rydym ni'n cydnabod pwysigrwydd gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn ddiogel, yn groesawgar ac yn hygyrch i bawb. Byddwn yn parhau i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a'r darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu dylunio a'u darparu gyda chyfraniad y rhai sydd â phrofiad uniongyrchol o nam ar y golwg.