1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 24 Ionawr 2023.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, byddai llawer ohonon ni wedi gwylio'r rhaglen deledu neithiwr a'i chael hi'n anghyfforddus iawn, y datgeliadau ar BBC Cymru am y diwylliant, a'r anawsterau wythnosol a misol y mae menywod ym myd chwaraeon, ym myd rygbi Cymru, yn eu hwynebu. Yr honiadau hyn, yn amlwg, mae rhai wedi'u profi ac mae rhai heb eu profi. Nid wyf i'n gwneud unrhyw honiadau uniongyrchol yn erbyn unrhyw unigolyn, ond cyflwynodd y rhaglen gyfres o ddigwyddiadau sy'n peri gofid mawr a gadarnhawyd gan sawl tyst a oedd wedi bod ar y rheng flaen yn Undeb Rygbi Cymru.
Rwy'n deall bod Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon wedi siarad ag Undeb Rygbi Cymru heddiw, neu'n ddiweddar iawn yn sicr. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ba gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymgysylltu ag Undeb Rygbi Cymru yng ngoleuni'r honiadau hyn? Ac ydych chi'n bwriadu, ar sail yr hyn rydych chi wedi ei weld hyd yma, ymgysylltu ymhellach fel y gellir datrys yr honiadau hyn, a gwneud yn siŵr bod pwy bynnag sy'n dewis chwarae rygbi yma yng Nghymru, boed yn ddynion neu'n fenywod, yn chwarae mewn amgylchedd diogel, amgylchedd sy'n gwerthfawrogi'r cyfraniad y maen nhw'n ei wneud at y gamp ac, yn bwysicaf oll, y lle cenedlaethol sydd gan Undeb Rygbi Cymru yn ein gwlad ardderchog?
Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â'r safbwyntiau y gwnaeth arweinydd yr wrthblaid wrth orffen ei gwestiwn. Cynhaliwyd y cyfarfod rhwng Dawn Bowden ac Undeb Rygbi Cymru brynhawn ddoe. Yn y cyfarfod hwnnw, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ei gwneud yn eglur i Undeb Rygbi Cymru ein bod ni angen gweld gweithredu brys a thryloyw sy'n helpu i adfer hyder yn URC ei hun, ac mae hynny'n gofyn am gydnabyddiaeth gyhoeddus ar ran Undeb Rygbi Cymru o faint a natur y materion a drafodwyd yn y rhaglen honno. Byddwn yn sicr yn parhau i ymgysylltu ag URC. Fel y dywed Andrew Davies, mae ganddo le ym mywyd cyhoeddus Cymru ac mae angen iddo gydnabod yr arwyddocâd hwnnw ei hun. Byddwn yn parhau i fod mewn sgwrs heriol â nhw, pan fo angen, i wneud yn siŵr bod dyfodol yn cael ei gyflwyno ar gyfer Undeb Rygbi Cymru sy'n sicrhau hyder pawb sy'n chwaraewyr y gêm ac sy'n gysylltiedig â'r dymuniad i'w gweld yn cael dyfodol llwyddiannus.
Diolch am yr ymateb yna, Prif Weinidog. Rwyf i wedi ysgrifennu heddiw at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol yma yn y Senedd, gan wahodd y pwyllgor hwnnw i roi ystyriaeth i ba ran y gallai ei chwarae i gynorthwyo'r rhai hynny sy'n amlwg wedi dioddef y driniaeth hon, ond hefyd i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru i, yn amlwg, roi mesurau diogelu ar waith a gwneud yn siŵr bod arferion gorau yn dod i'r amlwg i'n sefydliad cenedlaethol, y mae gan lawer ohonom ni feddwl mawr ohono.
Os caf i godi pwnc arall gyda chi, sydd, fel y dywedoch chi mewn ymateb i gwestiwn cynharach gan yr Aelod o Islwyn, yn gyfrifoldeb i chi, a'r Gweinidog iechyd, sef adeiladwaith ein hysbytai yma yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth adroddiad dynnu sylw at adeiladwaith gwael adeiladau yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac ysbyty Abergele yn benodol, lle ystyrir bod 85 y cant o ystad ysbyty Abergele yn weithredol beryglus ac nad yw'n bodloni gofynion y rheoliadau iechyd a diogelwch y byddai'n rhaid i unrhyw le arall eu bodloni. Ar draws ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, dim ond 62 y cant o'r ystad sy'n bodloni'r cafeat neu'r gofyniad hwnnw o ran bod yn weithredol ddiogel. Fel y dywedoch chi mewn ymateb yn gynharach i'r Aelod o Islwyn, chi sy'n gyfrifol, mae eich Gweinidog iechyd yn gyfrifol, mae'r bwrdd iechyd hwn wedi bod mewn mesurau arbennig ers chwe blynedd o dan reolaeth uniongyrchol y Llywodraeth, pam mae'r sefyllfa hon wedi datblygu, ac a wnewch chi ymddiheuro amdani?
Gadewch i mi ddechrau am eiliad, Llywydd, drwy gytuno â'r hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid wrth agor yr ail gwestiwn hwn, sef fy mod i'n credu fod swyddogaeth bosibl i un o bwyllgorau'r Senedd o ran helpu i sicrhau llwybr i URC at well dyfodol trwy ddefnyddio'r pwerau sydd gan bwyllgor yma i ymchwilio i'r honiadau ac i gynorthwyo, fel y dywedais, i ddod o hyd i well ffordd ymlaen.
O ran yr ail gwestiwn a ofynnodd yr Aelod, rydym ni wedi ymrwymo mwy na £335 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon, mewn gwariant cyfalaf, i GIG Cymru. Byddwn yn ymrwymo £375 miliwn arall y flwyddyn nesaf at yr un dibenion. Rydym ni'n wynebu safleoedd sy'n 30 oed ac yn hŷn, lle mae problemau cydymffurfio yn cael eu nodi, wrth i sefydliadau wneud gwaith arolygu. Ac mae'r gofynion ar y cyfalaf hwnnw yn enfawr. Yr wythnos diwethaf, atebais gwestiwn gan gyd-Aelod arweinydd yr wrthblaid, Darren Millar, a wnaeth achos y mae wedi ei wneud yn rheolaidd ar lawr y Senedd, dros fuddsoddiad mewn ysbyty newydd a fyddai'n gwasanaethu pobl yn ei etholaeth. Dywedais bryd hynny y byddai'n rhaid i'r bwrdd asesu'r cynllun hwnnw, ochr yn ochr â'i flaenoriaethau niferus eraill. Y ffaith syml yw bod y galw am wariant cyfalaf yn GIG Cymru yn fwy na'n gallu i fodloni'r galw hwnnw—a rhai o'r ffigurau, mewn gwirionedd, mae'n rhaid i chi eu trin nhw ychydig yn fwy gofalus nag yr wyf i'n credu yr oedd arweinydd yr wrthblaid yn eu trin nhw yn ei gwestiwn—ac mae'n rhaid i chi ddod o hyd i ffordd o fodloni'r gofynion mwyaf brys o'r cyfalaf sydd gennym ni at y dibenion hynny.
Prif Weinidog, mae'r ffigurau yr wyf i wedi eu dyfynnu i chi yn dod yn syth o bapurau'r bwrdd gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Dydyn nhw ddim yn ffigurau yr wyf i wedi eu gwneud i fyny. Yn ysbyty Abergele, dim ond 15 y cant o'r ysbyty hwnnw sy'n cael ei ystyried yn weithredol ddiogel. Fel y dywedais, ar draws ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, dim ond 62 y cant o'r ystad iechyd sy'n cael eu hystyried yn weithredol ddiogel. Ar draws Cymru gyfan, mae'r ffigur hwnnw'n codi rhyw fymryn bach i 72 y cant.
Os ydym ni'n mynd i gael rheolaeth dros yr amseroedd aros fyth, os ydym ni'n mynd i gynnig amgylchedd unfed ganrif ar hugain i staff a chleifion weithio ynddo, siawns na ddylai gwneud yn siŵr bod yr ystad iechyd ledled Cymru—heb sôn am ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr—yn weithredol ddiogel fod yn flaenoriaeth i'ch Llywodraeth, sydd, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, yn gyfrifoldeb i chi, ac yn gyfrifoldeb i'ch Gweinidog iechyd. Felly rwy'n gofyn i chi eto: a wnewch chi ymddiheuro i'r staff sy'n gorfod gweithio yn yr amgylchedd yr wyf i wedi ei ddisgrifio yn fy nghwestiwn i chi? Ac a allwch chi roi syniad i ni pryd y byddwn ni'n dechrau gweld gwelliant gwirioneddol yn yr ystad iechyd yng Nghymru, fel nad ydym ni'n canfod ysbytai lle mae 85 y cant o'u safle yn weithredol anniogel?
Mae'r cyllidebau cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn gostwng bob blwyddyn; maen nhw 8 y cant yn is y flwyddyn nesaf nag y maen nhw eleni. O ble mae'r Aelod yn meddwl y mae'r arian yn dod i wneud y pethau y mae'n eu hawgrymu? Nid yn unig hynny, ond nid yw ein terfyn benthyg cyfalaf wedi newid ers 2016. Nid penderfyniadau Llywodraeth Cymru yw'r rhain; penderfyniadau'r Llywodraeth y mae ef yn ei chefnogi ydyn nhw.
Byddwn yn dweud wrtho eto—ac fe wnaf hynny'n araf, fel y gall feddwl amdano—mai'r swm o arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yw—[Torri ar draws.] Byddai'n well gennyf i pe na bai'n pwyntio ataf i o ble mae'n eistedd. Mi roddaf gynnig arall arni, oherwydd nid yw'n gwrando, ond rwy'n mynd i roi cynnig arall ar geisio egluro iddo os yw eich cyllideb gyfalaf yn gostwng bob blwyddyn ac mae eich gallu i fenthyg yn cael ei gapio ar y lefel yr oedd saith mlynedd yn ôl, erbyn hyn, yna mae ein gallu i wneud y pethau yr hoffem eu gwneud yn cael ei gyfyngu gan benderfyniadau nad ydyn nhw yn nwylo Llywodraeth Cymru, ond yn nwylo ei ffrindiau a'i gydweithwyr, a dyna ni. Gadewch iddo feddwl am hynny ac efallai y bydd ganddo gwestiwn gwell i mi y tro nesaf.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd.
'Felly am un wythnos a wnaiff roi'r gorau i feio pobl eraill, cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb, a chyfaddef bod y GIG o dan ei oruchwyliaeth ef mewn argyfwng, onid yw?'
Rwy'n dyfynnu arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, i Rishi Sunak yr wythnos diwethaf yng nghwestiynau i Brif Weinidog y DU, ond maen nhw'n eiriau a allai fod yr un mor berthnasol i chi, Prif Weinidog. Mae Llafur yn yr Alban wedi disgrifio'r sefyllfa yn y GIG fel un sydd mewn argyfwng yno hefyd. Pam ydych chi, fel plaid, yn barod i ddatgan bod y GIG mewn argyfwng ym mhobman arall heblaw yma yng Nghymru, lle'r ydych chi'n gyfrifol ac wedi bod yn gyfrifol ers dros 25 mlynedd?
Wel, Llywydd, rwyf wedi colli cyfrif o'r nifer o weithiau yr wyf i wedi dweud yn y Siambr hon bod y GIG yng Nghymru o dan bwysau aruthrol ac nad yw'n gallu gwneud yr holl bethau yr hoffem iddo eu gwneud yn y ffordd yr hoffem iddo eu gwneud nhw. Os yw arweinydd Plaid Cymru yn credu bod rhoi label ar hynny rywsut, ar ei ben ei hun, yn gwneud hynny i gyd rhyw fymryn yn well, yna nid yw hwnnw'n safbwynt yr wyf i'n ei rannu.
Wel, mae geiriau'n bwysig oherwydd mae cyfaddef mewn gwirionedd ei fod yn argyfwng yn gydnabyddiaeth bwysig o'r raddfa, difrifoldeb a brys yr heriau sy'n ein hwynebu. Rwy'n credu mai'r rheswm nad ydych chi eisiau defnyddio'r gair hwnnw yw oherwydd bod yr argyfwng wedi datblygu a dwysau o dan eich arweinyddiaeth chi a'ch Llywodraeth. Mae iechyd wedi'i ddatganoli. Mae pum Gweinidog yn eich Llywodraeth—mwyafrif yn y Cabinet—wedi bod yn Weinidogion iechyd, ac mae'n bryd i chi gymryd cyfrifoldeb ar y cyd am y llanast y mae'r GIG ynddo.
O wrthod rhoi codiad cyflog teilwng i weithwyr iechyd, rydych chi, y Blaid Lafur, yn troi eich cefn ar weithwyr iechyd, a ni, yn y blaid hon, sy'n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â nhw ar y llinell biced. Rydych chi'n briodol falch yn y Blaid Lafur eich bod chi yno ac yn gyfrifol am enedigaeth y GIG, ond os na fyddwch chi'n newid eich polisi yn sylfaenol yna byddwch yn gyfrifol am ei farwolaeth.
Mae Llywodraeth y DU hefyd yn gwrthod cydnabod bod argyfwng; dydyn nhw ddim wedi cynnal unrhyw gyfarfodydd COBRA yn ystod argyfwng y GIG yno. Yn yr Alban, mae'r sefydliad cyfatebol wedi cyfarfod dair gwaith dros y misoedd diwethaf i drafod y problemau yn y GIG. Pa mor aml mae'r sefydliad cyfatebol yng Nghymru wedi ymgynnull dros y gaeaf hwn i adlewyrchu'r argyfwng cenedlaethol yr ydym ni'n ei wynebu erbyn hyn?
Wel, Llywydd, cyhoeddwyd ffigurau yr wythnos diwethaf ar berfformiad yn GIG Cymru. Dyma'r gwasanaeth argyfwng a ddisgrifiodd yr Aelod: gostyngodd yr holl arosiadau yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ym mis Tachwedd. Gostyngodd cyfanswm y bobl a oedd yn aros; gostyngodd nifer y bobl a oedd yn aros dros 26 wythnos, gostyngodd dros 52 wythnos, gostyngodd dros ddwy flynedd. Gostyngodd nifer y bobl sy'n aros am apwyntiad therapi; gostyngodd nifer y bobl sy'n aros am—[Torri ar draws.] Dyma ffeithiau'r mater. Os ydych chi eisiau disgrifio gwasanaeth sydd wedi llwyddo ym mhob un o'r pethau hynny fel argyfwng, mae hynny'n iawn i chi ei wneud.
Roedd hwn yn wasanaeth a oedd, ym mis Tachwedd, wedi adfer achosion cleifion mewnol a dydd i 93 y cant o'r lefel cyn y pandemig. Mae wedi bod yn uwch na 90 y cant yn nhri o'r pedwar mis diwethaf. Fe wnaeth gweithgarwch cleifion allanol adfer i 114 y cant o'r mis yn union cyn i'r pandemig ddechrau. Mae wedi bod dros 100 y cant yn nhri o'r pedwar mis diwethaf.
Mae'r gwasanaeth o dan bwysau aruthrol. Mae mwy o bobl yn gweithio ynddo nag erioed o'r blaen. Mae mwy o arian yn cael ei fuddsoddi ynddo nag erioed o'r blaen. Ac er gwaethaf yr holl bethau ychwanegol y mae'n rhaid iddo ymdrin â nhw—COVID, ffliw, streptococws grŵp A, streiciau—mae'r gwasanaeth yn llwyddo bob dydd i gyrraedd miloedd ar filoedd o bobl na fydden nhw byth, pe na bai'r gwasanaeth iechyd yno, yn cael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw. Os yw ef eisiau ei ddisgrifio fel argyfwng ac mae'n meddwl mai ateb seicodrama rywsut yw'r hyn sydd ei angen ar y gwasanaeth iechyd, nid dyna fy safbwynt i.
Mae hynny islaw urddas y Prif Weinidog, a bod yn onest gyda chi. Nid fy ngeiriau i yw'r rhain; dyma eiriau gweithlu'r GIG yr ydym ni wedi bod yn siarad â nhw ac yn gwrando arnyn nhw ar y llinellau piced. Mae gennym ni nyrsys, meddygon ac eraill, trwy orweithio, sy'n crio ar wardiau, a chleifion a'u perthnasau oherwydd y profiad y maen nhw'n ei wynebu. Mae gen i ofn bod yr agwedd o wadu yr ydym ni newydd ei glywed gan y Prif Weinidog yn adlewyrchu eich camddealltwriaeth lwyr, eich datgysylltiad llwyr o'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad.
Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod chi'n fodlon edrych ar ein syniadau yn gadarnhaol yn y cynllun pum pwynt. Yn ganolog iddyn nhw y mae cael cynllun gweithlu hirdymor i fynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio, cadw ac ysbryd hwn, a'r broblem o orweithio yn y gwasanaeth iechyd. A all bod yn fwy hyblyg fod yn rhan o'r ateb? Wel, fe allech chi edrych nid yn unig ar ein syniadau ni, ond y syniadau ym mhwyllgor y Senedd a gyflwynwyd heddiw o ran wythnos waith pedwar diwrnod. A allai hynny fod yn rhywfaint o ateb o ran, yn ogystal â gwella cynhyrchiant, lleihau gorweithio a blinder, ond hefyd darparu budd deuol gweithlu hapusach, iachach, â llai o straen ac sydd wedi'u hamddifadu o gwsg yn llai? Rydych chi wedi ymrwymo, meddech chi, fel Llywodraeth i fod yn arloesol ac i bolisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth; beth am edrych ar y syniad hwn yn rhan o'r ateb posibl i'r argyfwng recriwtio a chadw staff yn ein Gwasanaeth Iechyd?
Yn gyntaf oll, mae llawer o bobl yn y gwasanaeth iechyd yn gweithio llai nag wythnos pum diwrnod. Mae'n rhan o natur newidiol y ffordd y mae pobl sydd yn y swyddi hynny lle ceir pwysau mawr yn dewis gwneud eu dyfodol eu hunain. Mae'n rhan o'r rheswm pam mae gennym ni fwy o bobl yn gweithio yng ngwasanaeth iechyd Cymru, ym mhob un agwedd arno, nag erioed o'r blaen.
Rydyn ni bob amser yn barod i edrych ar ffyrdd y gellir gwella amodau gwaith pobl ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n rhan o'r drafodaeth y mae'r Gweinidog iechyd wedi bod yn ei chael gyda'n hundebau llafur yn y gwasanaeth iechyd. Mae wythnos waith pedwar diwrnod yn rhywbeth yr ydym ni'n gwybod bod rhai busnesau yng Nghymru eisoes wedi ei ddechrau gan eu bod nhw'n credu ei fod yn sicrhau gwell cynhyrchiant a gweithle mwy bodlon nag a fyddai fel arall yn wir. Byddwn yn edrych yn ofalus ar y gwersi o hynny. Bydd arbrawf yn yr Alban. Nid yw wedi cychwyn eto, ond rwyf i wedi ei drafod gyda Phrif Weinidog yr Alban a byddwn yn edrych i weld a oes unrhyw beth y gallwn ni ei ddysgu o hynny. Mae'r syniad y byddai newid yn gyflym ac yn gyfan gwbl i weithio pedwar diwrnod yn y gwasanaeth iechyd yn debygol o arwain at well canlyniadau i gleifion yn rhywbeth y byddai angen ei archwilio'n drylwyr iawn, rwy'n credu.