1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2023.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am wasanaethau fasgiwlar i gleifion yn Arfon? OQ58981
Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn, Llywydd. Dros yr wythnosau nesaf, bydd sawl adroddiad yn helpu’r bwrdd gyda’r gwaith angenrheidiol o wella’r gwasanaeth fasgiwlar i gleifion yn Arfon. Bydd hynny'n cynnwys yr ail-arolygiad diweddar o’r gwasanaeth gan Arolygiaeth Iechyd Cymru, archwiliad cynaliadwyedd annibynnol, a'r adroddiad a gafodd ei gomisiynu drwy banel ansawdd fasgiwlar y bwrdd ei hun.
Unwaith eto, dwi'n cefnogi etholwr o Arfon sydd wedi dioddef yn enbyd yn sgil camgymeriadau sylfaenol a difrifol iawn gan yr uned fasgiwlar yn Ysbyty Glan Clwyd. Dwi wedi dadlau'n gyson fod y bwrdd iechyd wedi datgymalu uned o safon uchel ym Mangor am y rhesymau anghywir. Dyma ond un o benderfyniadau gwael a wnaed efo sêl bendith eich Gweinidogion chi dros y blynyddoedd, diwethaf sydd wedi golygu dirywiad mewn gwasanaethau i bobl yn y gogledd orllewin.
Tanfuddsoddi arian cyfalaf yn Ysbyty Gwynedd ydy un arall o'r penderfyniadau gwael hynny sydd wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar. Mae cyfres o benderfyniadau disynnwyr ac o gamreoli wedi cyfrannu yn fawr at yr argyfwng iechyd yn y rhan yma o Gymru. Dydy'r trefniadau fasgiwlar presennol ddim yn gweithio ar gyfer fy etholwyr i. Rydych chi wedi rhestru nifer o adroddiadau—mwy o adroddiadau—ond beth ydych chi’n mynd i'w wneud i stopio’r sefyllfaoedd torcalonnus sydd yn parhau i ddigwydd yng Nglan Clwyd?
Wel, Llywydd, rŷn ni wedi bod ar ôl hanes gwasanaethau fasgiwlar yn y gogledd yn fwy nag unwaith ar lawr y Senedd. Dwi ddim yn cytuno, dydy’r bwrdd iechyd ddim yn cytuno a dydy’r colegau brenhinol ddim yn cytuno gyda beth mae'r Aelod wedi awgrymu dros y blynyddoedd. Llywydd, mae'r Gweinidog iechyd wedi derbyn bod dal pryderon gyda'r gwasanaeth fasgiwlar yn y gogledd a'r cynnydd wrth weithredu'r cynllun gwella fasgiwlar. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn monitro’r cynnydd hwnnw yn agos. Mae'r arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau fasgiwlar, sydd newydd ei benodi, eisoes wedi ymweld â gogledd Cymru, a bydd ymgynghorwyr fasgiwlar sy'n gweithio yn y gogledd yn cymryd rhan yng nghynhadledd fasgiwlaidd cyntaf Cymru gyfan ym mis Chwefror. Drwy gydweithio fel yna, gydag arweinyddiaeth y Gweinidog—dyna’r ffordd orau i weld gwasanaethau yn y gogledd yn y lle gorau ar gyfer y dyfodol.