Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 24 Ionawr 2023.
Rwy'n croesawu datganiad y Prif Weinidog wrth ymateb i Llyr Gruffydd yn cefnogi datganoli Ystad y Goron. Rwy'n credu bod hwnnw'n gam pwysig iawn o ran darparu cyflenwadau ynni adnewyddadwy i Gymru, ac rwy'n edrych ymlaen at ddatganiad y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ddiweddarach y prynhawn yma ar y targedau hynny. Ond, Prif Weinidog, yn ogystal â sicrhau bod y gallu gennym ni i ddarparu'r datblygiadau graddfa fawr sydd eu hangen i gyrraedd targedau sero net, a yw hefyd yn bosibl cydbwyso hynny â mwy o bwyslais ar gynhyrchu adnewyddadwy lleol sy'n eiddo i'r gymuned? Oherwydd pan fyddaf yn siarad â'm hetholwyr, mae ganddyn nhw ofnau am rai o'r datblygiadau ar raddfa fwy a allai ddigwydd ar bennau'r cymoedd sydd o amgylch Blaenau Gwent, ond yr hyn y maen nhw ei eisiau yw ymrwymiad i sero net, ac maen nhw eisiau chwarae eu rhan i sicrhau sero net. Ac mae hynny'n golygu cynlluniau lleol, y gallwn ni deimlo'n gyfrifol amdanyn nhw ac yr ydym ni'n teimlo y gallwn ni fod yn rhan ohonyn nhw, i sicrhau bod gan bob rhan o'n cymuned fynediad at gynhyrchiad ynni adnewyddadwy am gost resymol.