10. Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023

– Senedd Cymru am 6:40 pm ar 24 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:40, 24 Ionawr 2023

Eitem 10 sydd nesaf, Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023. Y Gweinidog Newid Hinsawdd sy'n cynnig rhain, Julie James.

Cynnig NDM8185 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Rhagfyr 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Julie James Julie James Labour 6:40, 24 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rydym wedi gwneud y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023 er mwyn diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014, a elwir yn rheoliadau 2014, fel bod dioddefwyr a goroeswyr caethwasiaeth a masnachu pobl a gafodd ganiatâd dros dro i aros yn y DU yn gallu cael mynediad at dai neu at gymorth tai yng Nghymru. Bydd pobl sy'n cael y caniatâd dros dro hwn i aros yn gallu aros yn y DU am hyd at 30 mis. Mae'r hawl hwn yn rhoi'r hawl iddyn nhw weithio, astudio a chael mynediad at arian cyhoeddus, yn arbennig tai a chymorth tai.

Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau yn cymeradwyo'r cynnig, gan y bydd hwn yn rhoi hawliau pwysig i ddioddefwyr a rhai sydd wedi goroesi caethwasiaeth a masnachu pobl a sicrhau bod cyfreithiau tai yng Nghymru yn cael eu gwneud yn gyson â deddfau mewnfudo'r Deyrnas Unedig, sydd i fod i newid yr wythnos nesaf. Mae gan ddioddefwyr a goroeswyr caethwasiaeth a masnachu pobl eisoes hawl i aros dros dro yn y DU trwy bwerau disgresiwn y Swyddfa Gartref. Bydd y gwelliannau a gyflwynwyd heddiw yn sicrhau bod rheoliadau 2014 yn ffurfioli cymhwysedd dioddefwyr a goroeswyr caethwasiaeth a masnachu pobl o fewn, yn hytrach na'r tu allan, y rheolau mewnfudo presennol.

Gobeithio y bydd Aelodau'n cydnabod y bydd eu cefnogaeth i'r rheoliadau yn helpu i gryfhau ymrwymiad Cymru i fod yn genedl noddfa, wedi ymrwymo i hawliau dynol a hyrwyddo heddwch. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:42, 24 Ionawr 2023

Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, Huw Irranca-Davies.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

Diolch eto, Llywydd. Fe wnaethon ni drafod hefyd y rheoliadau hyn ar 16 Ionawr, ac mae ein hadroddiad wedi'i gynnwys ar agenda'r prynhawn yma i lywio'r ddadl hon.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Mae ein hadroddiad ar y rheoliadau hyn yn cynnwys dau bwynt rhinweddau. Fe ddechreuaf gyda'r ail, a nododd na fu unrhyw ymgynghoriad ar y rheoliadau. Yn benodol, nodwyd paragraff yn y memorandwm esboniadol sy'n gysylltiedig â'r rheoliadau sy'n nodi, gan fod caniatâd dros dro i aros yn gynnyrch polisi Llywodraeth y DU a gedwir yn ôl—sef mewnfudo—nid oedd Llywodraeth Cymru yn ystyried yn yr achos hwn ei bod yn bosibl cynnal ymgynghoriad ystyrlon ar ddulliau amgen, gan mai effaith y rheoliadau—fel y dywedodd y Gweinidog yn wir—yw sicrhau cysondeb rhwng cyfraith tai Cymru a chyfraith mewnfudo. Felly, rydyn ni'n nodi hynny.

Fodd bynnag, mae ein pwynt adrodd rhinweddau cyntaf, yn ailadrodd yr un pwynt a wnes i yn y ddadl flaenorol. Gosodwyd memorandwm esboniadol y rheoliadau yn Saesneg yn unig. Cyn i ni dderbyn y llythyr perthnasol gan yr Ysgrifennydd Parhaol, y cyfeiriais ato yn fy nghyfraniad blaenorol, fe ofynnom ni i Lywodraeth Cymru esbonio pam nad oedd fersiwn Gymraeg o'r memorandwm esboniadol wedi'i gosod ar gyfer y rheoliadau hyn. Roedd yr ymateb a gawsom eto yn nodi Rheol Sefydlog 15.4, ac yn datgan bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â chanllawiau a ddarparwyd gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, ac ati, i gyfeirio at drawsgrifiad y ddadl flaenorol. Ond fel y nodwyd o'r blaen, ac yn unol â'r ymrwymiad gan yr Ysgrifennydd Parhaol, bydd Llywodraeth Cymru nawr yn cynhyrchu memoranda esboniadol i is-ddeddfwriaeth Cymru yn ddwyieithog, yn dilyn cyfnod byr o ymsefydlu. Felly, rydyn ni'n ddiolchgar iawn am yr eglurhad hwnnw.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 6:44, 24 Ionawr 2023

Diolch am y datganiad y prynhawn yma; mae o i'w groesawu yn fawr iawn. Mae o'n dangos dyhead ac uchelgais Cymru i fod yn wlad ac yn genedl o noddfa, ac mae'r datganiad yma'n sicr yn gam pwysig i'r cyfeiriad hwnnw.

Fel y gŵyr y Gweinidog, mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn cynnal ymgynghoriad i ffoaduriaid o Wcráin sydd yn dod i Gymru er mwyn dianc troseddau Putin ar hyn o bryd. Mae'r dystiolaeth wedi bod yn ddirdynnol, ac mae'n deg dweud bod gweithredoedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn llawer iawn gwell na'r hyn sydd i'w weld gan Lywodraeth San Steffan.

Ond erys y pwynt fod yna ddiffyg tai yma, a gwersi i'w dysgu o'r profiadau diweddar. Felly, a gawn ni sicrwydd fod anheddau addas i bwrpas yn cael eu paratoi yn ddi-oed er mwyn sicrhau bod gennym ni'r adnoddau angenrheidiol i groesawu a chartrefi y bobl yma sydd ddirfawr angen ein cymorth, a bod gennym ni'r cyfrifoldeb i'w llochesi nhw?

Ac yn olaf, rydyn ni wedi clywed dros y dyddiad diwethaf y newyddion brawychus am 200 o blant oedd yn ceisio lloches yn diflannu o westai lloches y Swyddfa Gartref yn Lloegr. A fydd y newid yma i TPS yn sicrhau mwy o ddiogelwch i'r bobl fregus iawn yma, a pha gamau sy'n cael eu cymryd, wrth gyflwyno'r rheoliadau yma, i sicrhau na fydd plant ac eraill sy'n cael eu croesawu yma yng Nghymru yn mynd ar goll? Diolch.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Ar y pwynt ymgynghori a gododd Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder, fe wnaf ailadrodd yr hyn a ddywedais: mae'r gwelliannau a gyflwynwyd gan y rheoliadau drafft yn adlewyrchu'n glir newidiadau i gyfraith mewnfudo, sy'n faterion a gedwir yn ôl. Mae'r newidiadau'n eithaf cyfyngedig, gan adael ychydig neu ddim effaith ar wasanaethau cyhoeddus, o'u cymharu â'r sefyllfa bresennol. Byddai gwerth cyfyngedig i unrhyw ymgynghoriad, gan nad oes gennym y pwerau i gynnig unrhyw ddulliau gweithredu amgen perthnasol. Rwy'n credu bod hynny'n gwneud y pwynt yn eithaf cryno. Yn amlwg, does gen i ddim gwrthwynebiad i'r materion Cymraeg—rydyn ni'n hapus i wneud hynny, wrth gwrs.

O ran y materion diogelwch a chyflenwad tai, mae hyn yn unioni'r sefyllfa. Roedd hyn yn arfer bod yn ôl disgresiwn y Swyddfa Gartref, ond mae nawr yn rhoi'r hawl i bobl gael eu hystyried ar gyfer gwasanaethau tai a'u bod nhw, wedyn, yn cael yr un hawl â phawb arall i gael y gwasanaethau hynny. Ac, wrth gwrs, bydd yn helpu i gynyddu diogelwch, oherwydd mae cael yr hawl, yn hytrach na gorfod gwneud cais am y disgresiwn, yn amlwg yn sefyllfa well i fod ynddi. 

Rwy'n croesawu'r cyfle a gawsom i drafod y rheoliadau, Llywydd, a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. O ystyried y budd clir a ddaw yn sgil y rheoliadau, rwy'n gobeithio y bydd Aelodau'n cefnogi'r cynnig. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:46, 24 Ionawr 2023

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does yna ddim gwrthwynebiad, felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:47, 24 Ionawr 2023

Sy'n golygu nad oes gyda ni bleidleisiau i'w cymryd heno. Dyna ddiwedd ein busnes ni am y dydd heddiw, felly. Diolch yn fawr.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:47.