Part of the debate – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 24 Ionawr 2023.
Yr wythnos hon, yn amwg, yw Wythnos Cofio'r Holocost, ac efallai fod y Gweinidog yn ymwybodol—efallai fod y Trefnydd yn ymwybodol—bod gwaith yn digwydd yn y gogledd i geisio olrhain hanes cymunedau Iddewig yn y rhanbarth. Nathan Abrams, athro ym Mhrifysgol Bangor sy'n arwain y gwaith hwnnw, ac mae ef eisoes wedi cyflawni llawer iawn o waith yn Ynys Môn, Gwynedd a rhannau eraill o'r gogledd. Er mwyn symud ymlaen a chwblhau'r gwaith hwnnw, mae angen tua £50,000, sydd yn swm sylweddol o ran ymchwil rwy'n gwybod, ond nid yw'n swm sylweddol o ran pwysigrwydd y gwaith hwn. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog priodol Llywodraeth Cymru ar ein treftadaeth Iddewig yma yng Nghymru a pha gamau sy'n cael eu cymryd er mwyn ei hyrwyddo, yn enwedig yn rhanbarth y gogledd?
Yn ogystal â hynny, ni ddylai fod wedi dianc sylw unrhyw un a oedd yn edrych ar fy ffrydiau cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos ein bod ni wedi nodi Diwrnod Gwerthfawrogi'r Wiwer Goch y penwythnos hwn. Ac fel hyrwyddwr y wiwer goch yn y Senedd hon, nid ydw i eisiau colli'r cyfle i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r gwaith cadwraeth sy'n digwydd i wiwerod coch. Fe wnes i gymryd rhan mewn gweminar ddoe gyda UK Squirrel Accord i siarad am y gwaith da sy'n cael ei wneud, ar y cyd, yng Nghymru, er mwyn hyrwyddo a hybu niferoedd y gwiwerod coch yn y wlad. Ond un mater o bryder a gafodd ei godi oedd y ffaith bod Deddf Atal Difrod gan Blâu 1949 yn ôl pob tebyg ond yn cynnwys cnofilod, ac yn rhoi cyfrifoldebau i gynghorau ac awdurdodau lleol weithredu i leihau cnofilod fel plâu yng nghartrefi a busnesau pobl. Ond nid oes darpariaeth ar gyfer difrod pla y gall gwiwerod llwyd, wrth gwrs, ei achosi—stripio gwifrau trydanol, a thyllu i eiddo pobl ac achosi difrod i'r pren. Rwy'n gwybod fy mod i'n rhygnu ymlaen, ond os caf i ond gorffen—