Part of the debate – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 24 Ionawr 2023.
Trefnydd, yr wythnos hon yw Wythnos Atal Canser Serfigol. Mae tua 160 diagnosis o achosion o ganser serfigol bob blwyddyn. Dyma'r math mwyaf cyffredin o ganser i fenywod o dan 35 oed. Rwyf i wedi bod yn gweithio gydag Jo's Cervical Cancer Trust i gynyddu'r nifer sy'n dewis cael brechlyn HPV a sgrinio serfigol, gan ein bod ni'n gwybod bod sgrinio rheolaidd yn lleihau'r risg hyd at 70 y cant. A gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Iechyd ar ymyriadau Llywodraeth Cymru i ddileu canser serfigol?
A hefyd mae arweinydd a dirprwy arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU, gan alw arnyn nhw i egluro pa wasanaethau cyngor fydd yn gymwys ar gyfer cynllun disgownt y bil ynni. Mae hyn yn bwysig fel y gall ein cynghorau gael sicrwydd y bydd asedau cymunedol pwysig, fel canolfannau hamdden, yn cael cymorth tuag at eu costau ynni. Felly, a gaf i ofyn hefyd am ddatganiad llafar gan Lywodraeth Cymru ynghylch ei thrafodaethau gyda'i hadran gyfatebol yn y DU i sicrhau bod y gefnogaeth hanfodol hon i'n cynghorau yn cael ei rhoi ar waith?