Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 24 Ionawr 2023.
Diolch yn fawr, Joyce. Mae'n bwynt da iawn. Rydyn ni wedi bod yn gweithio ers cryn amser nawr gydag ystod o randdeiliaid—ac rwy'n gwybod eich bod chi'n gwybod hyn—i sicrhau ein bod ni'n gwneud ystod lawn o bethau. Yn gyntaf oll, rydyn ni'n denu'r math cywir o fuddsoddiad, ac mae problemau enfawr gyda hynny. Dydyn ni ddim eisiau gwyrddgalchu, er enghraifft, ond rydyn ni eisiau buddsoddiad priodol mewn ynni adnewyddadwy ac mewn bioamrywiaeth hefyd. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod gennym ni'r offerynnau ariannol cywir ar waith i wneud hynny. Dyma oedd un o'r pethau gorau i ddod allan o COP15, faint o ddysgu oedd yn cael ei wneud yn fyd-eang ar sut i gael y rheiny'n iawn. Roedd yn rhyddhad mawr i mi weld nad oeddem ar ein pennau ein hunain wrth geisio gwahaniaethu rhwng y ddau beth hynny.
Yr ail yw ein bod ni wedi bod yn gwneud llawer iawn o waith, gyda'n hawdurdodau porthladdoedd a'r seilwaith o'u cwmpas, a gyda'n cadwyni cyflenwi, i wneud yn siŵr bod y cadwyni cyflenwi mor barod ag y gallant fod i fodloni'r her sydd i ddod o'r gwynt arnawf newydd, ond hefyd y gwynt parhaus ar y tir a mathau eraill o ynni adnewyddadwy, ac y gallwn fanteisio ar y prosiectau ymchwil hydrogen newydd ledled Cymru, i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cael cymaint o hydrogen gwyrdd allan o'r ynni adnewyddadwy newydd ag y gallwn ni. Mae Aberdaugleddau mewn sefyllfa dda i fanteisio ar beth o hynny ac wedi bod yn gweithio'n galed iawn arno.
Y darn olaf yw y byddwn ni'n gwneud y dadansoddiad o'r gadwyn gyflenwi, fel y gallwn ni, lle mae bylchau, weithio'n rhagweithiol, gyda'n hawdurdodau porthladdoedd yn benodol, i wneud yn siŵr eu bod nhw hefyd yn estyn allan at bobl a allai ddod i mewn a llenwi'r bylchau yn y gadwyn gyflenwi hynny, gan ddal buddsoddiad mewnol a buddsoddiad sgiliau i wneud yn siŵr ein bod ni'n manteisio yn y ffordd orau ar hyn.
Bydd fy nghydweithiwr, Vaughan Gething a minnau yn cyflwyno cynllun sgiliau sero-net. Mae hynny'n cael ei dreialu gyda diwydiant ar hyn o bryd i wneud yn siŵr ei fod yn addas i'r diben a'i fod yn cael ei ddiogelu rhag y dyfodol. Mae angen i ni ddal yr holl sgiliau gwyrdd rydyn ni eu hangen ar gyfer y dyfodol i sicrhau bod gennym ni un o'r gwledydd economaidd mwyaf cynaliadwy yn y byd; rwy'n awyddus iawn ar yr uchelgais hwnnw. A bydd eich ardal chi yn ganolog iawn yn hynny, oherwydd ei chlystyrau diwydiannol, ond, mewn gwirionedd, wrth gwrs, oherwydd ei hadnoddau naturiol toreithiog o amgylch yr arfordir ac ar y tir. Felly, wrth i ni fynd ymlaen, rwy'n siŵr y byddwn ni'n parhau i weithio yn agos gyda'r diwydiannau gweithgynhyrchu ac awdurdod Haven ei hun, wrth i ni wneud hynny. Mae'n ddrwg iawn gen i na allwn wneud y cyfarfod y noson honno, ond rwyf wedi cwrdd â nhw ar sawl achlysur. Ac os ydych chi am fy ngwahodd i lawr yno, byddwn i'n hapus iawn i ddod eto. Diolch.