Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 24 Ionawr 2023.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi wedi dweud yn barod bod penawdau’r cyfrifiad yn siomedig, ac nad dyna roedden ni'n gobeithio ei weld. Wedi dweud hynny, mae'n bwysig nodi bod mwy i'r stori na jest y pennawd, ac mae yna fwy i bolisi iaith na jest y cyfrifiad.
Gyntaf i gyd, gadewch i ni atgoffa'n hunain o'r canlyniadau. Ar ddiwrnod y cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, roedd tua 538,000 o breswylwyr arferol Cymru tair oed ac yn hŷn wedi nodi eu bod nhw'n gallu siarad Cymraeg. Mae hynny jest o dan 18 y cant o'r boblogaeth. Ond mae hwnna bron i 24,000 yn llai o bobl nag yng nghyfrifiad 2011. O ran plant tair i 15 oed, roedd yna leihad o tua 6 phwynt canran yn y gyfran a gafodd ei nodi eu bod nhw'n medru'r Gymraeg. Ond yn yr un cyfnod, roedd twf o dros 11,000 wedi bod ers cyfrifiad 2011 yn y niferoedd mewn addysg cyfrwng Cymraeg.
Mi oedd yna gynnydd bach yn yr oedolion iau sy'n medru'r Gymraeg—hynny yw y grŵp oedran 16 i 44—o 17.2 y cant yn 2011 i 17.9 y cant yn 2021, ac mae yna fwy o ddata ar y ffordd. Bydd hwn yn cynnwys gwahanol lefelau daearyddol, data am ethnigrwydd, a syniad o faint o blant sy'n gallu siarad Cymraeg mewn cartrefi lle mae yna oedolion sy'n gallu siarad Cymraeg hefyd—trosglwyddo'r Gymraeg rhwng y cenedlaethau, i ddefnyddio'r term technegol. Rŷn ni'n gobeithio y bydd y data newydd yma yn cael ei ryddhau o fewn y misoedd nesaf, a dwi'n cael ei weld e ar yr un pryd â phawb arall—dwi ddim yn ei gael e unrhyw funud ynghynt, yn union fel roedd hi yn nôl ym mis Rhagfyr. Dyma ni wedi cael cyfle cychwynnol, felly, i gnoi cil ar y canlyniadau. Y peth sy'n gyfan gwbl amlwg yw bod angen i ni edrych yn fanwl iawn ar y grŵp oedran tair i 15 oed. Heb os, fe fydd angen dadansoddiadau pellach, a byddwn ni'n gweithio ar hyn drwy gydol y flwyddyn.
Mae’n werth nodi, wrth i ni edrych ar wahanol ganlyniadau a gwahanol arolygon ar y Gymraeg, ein bod ni'n gweld eu bod nhw'n dweud pethau gwahanol wrthym ni, ac mae angen i ni wybod pam mae hynny. Mae'r arolwg blynyddol diweddaraf o'r boblogaeth yn dangos bod bron i 900,000 yn gallu siarad Cymraeg, mewn cymhariaeth â'r 538,000 mae cyfrifiad 2021 yn ei nodi. Mae'n harolwg cenedlaethol ni yn dangos cynnydd sylweddol yng nghanran yr oedolion 16 mlwydd oed neu'n hŷn sydd â rhywfaint o allu i siarad Cymraeg. Pam? Mae cwestiwn y cyfrifiad yn eithaf binary a moel, a dwi'n nabod lot o bobl—fel chi, siŵr o fod, hefyd—sy'n dweud wrthyf i, yn Gymraeg, nad ydyn nhw'n ddigon hyderus i dicio bocs Cymraeg y cyfrifiad.
Mae siaradwyr newydd yn hollbwysig i ddyfodol ein hiaith ni. Byddwn i'n hoffi gweld cydnabyddiaeth bod siaradwyr goddefol yn rhan bwysig o'r ateb ar gyfer y dyfodol, sy'n golygu mwy o sgyrsiau dwyieithog a newid diwylliant. Rŷn ni'n adeiladu ar ddegawdau o orfod dewis rhwng Saesneg a Chymraeg lle mai'r realiti i'r rhan fwyaf ohonom ni ydy bywydau dwyieithog. Mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at yr ystadegydd gwladol yn gofyn iddo fe edrych ar sut a pham mae gwahanol arolygon am yr un testun yn gallu dangos canlyniadau sy'n amrywio. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio er mwyn deall mwy am hyn. Mae bwlch rhwng yr arolygon; dyw hynny, a dweud y gwir, ddim yn anarferol. Yr hyn sydd yn anarferol yw i'r naill un fynd am i fyny, a’r llall fynd am i lawr. Pan gawn ni’r ateb, a phan gawn ni weddill data’r cyfrifiad, fe wnawn ni ddiweddaru taflwybr ystadegol—y trajectory—ar gyfer 'Cymraeg 2050', yn union fel y gwnaethon ni addo nôl yn 2017.