Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 24 Ionawr 2023.
Ambell gwestiwn teg fanna. Y peth i gadarnhau ydy dydyn ni ddim wedi newid o gwbl ein safbwynt tuag at y cyfrifiad—hwnnw sydd yn dangos inni'r ffigurau o fewn y strategaeth. Rŷn ni wedi dweud hwnna ar y cychwyn cyntaf, a dyw hynny ddim wedi newid, ond gallwch chi ddim jest edrych ar hyn yn unllygeidiog. Mae dwy ffynhonnell ddata sydd yn dweud pethau gwahanol iawn wrthych chi—a, gyda llaw, nid Llywodraeth Cymru sydd yn arwain ar hyn; mae'r ONS yn gwneud y ddau. Dyna pam rôn i wedi ysgrifennu at yr ystadegydd gwladol i ofyn iddyn nhw i'n helpu ni ddeall y gwahaniaeth rhwng y ddau er mwyn edrych ar ymyriadau polisi sydd yn ymarferol ac yn uchelgeisiol yn y ffordd rwy'n cytuno gyda'r Aelod yw'r ateb ar gyfer hyn. Mae'n rhaid edrych ar y cyd-destun yn llwyr; dyw jest un darn o ddata ddim yn ddigonol. Ond jest i fod yn glir, dŷn ni ddim yn diystyru beth mae’r cyfrifiad yn ei ddweud, ond mae’r ffaith ei fod wedi digwydd yn yr amser mae wedi digwydd, yng nghanol COVID, yn amlwg yn rhywbeth na allwch chi jest ei anwybyddu. Allwch chi byth fod yn unllygeidiog am hyn. Mae’n rhaid edrych ar y cyd-destun i gyd. Byddwn ni’n edrych ar y tafl-lwybr eto yn sgil beth rŷn ni wedi'i weld yn y cyfrifiad.
O ran yr ymyriadau rŷch chi’n sôn amdanyn nhw, mae gyda ni ddewis, os hoffech chi—dewis ar un lefel, efallai, sy’n dewis gwleidyddol. Hynny yw, mae ystod o bethau y gellid wedi eu dal yn ôl fel ymateb i’r cyfrifiad rŷn ni wedi bod yn eu gwneud dros y flwyddyn diwethaf. Rwyf wedi sôn am rai ohonyn nhw yn barod heddiw—y cynllun iaith strategol, y cynllun gweithlu addysg, a lot o bethau eraill o ran gwersi am ddim i bobl. Gallem ni wedi dal rheini nôl, ond, ar ddiwedd y dydd, petasai’r ffigurau yma wedi dangos cynnydd sylweddol, byddai dal angen gwneud y pethau yna a'u gyrru yn eu blaenau. Felly, dyna’r penderfyniad strategol i’w gymryd. Mae angen cynyddu’r nifer hyd yn oed o’r 900,000 sy’n cael ei ddangos yn yr adolygiad. Felly, dyna’r dewis y gwnes i—bwrw ati yn hytrach nag aros, ac rwy’n sicr eich bod chi’n cytuno mai dyna’r peth iawn i’w wneud, wrth gwrs.
Ond mae yna bethau i’w dysgu sy'n dod allan o’r cyfrifiad. Rwyf wedi sôn amdanyn nhw eisoes heddiw. Mae eisiau edrych o ddifrif ar gyfraniad dysgu Cymraeg yn y system addysg Saesneg. Rwyf eisiau edrych ar y rhanbarthau hynny lle mae’r cwymp wedi bod yn sylweddol, fel sir Gaerfyrddin, sydd, am yr ail dro, dros ddau gyfrifiad, yn dangos gostyngiad. Mae hynny yn wir yn peri gofid. Felly, mae angen edrych ar lefel gymunedol, neu fwy o ymchwil gymunedol, i weld beth yn union sy’n digwydd. Rwy’n bwriadu gwneud cyfres o gyfarfodydd lleol i edrych i mewn i'r ffactorau lleol sydd wedi bod, efallai, yn berthnasol i hyn hefyd.
Ond rwyf wedi sôn mewn cyd-destun arall, o flaen y pwyllgor yn ddiweddar, ein bod ni’n edrych eto ar y cynllun grantiau i weld ydy e’n wir yn gyrru’r nod sydd gennym ni. Felly, dwi ddim yn mynd i jest ddweud, ‘Wel, mae gennym ni un set o ffigurau sy’n dangos cynnydd, felly dyna ni’; mae angen gweithio a bwrw yn ein blaenau. Mae gyda ni bethau rŷn ni wedi’u gwneud dros y flwyddyn diwethaf, ond mae ystod o bethau mwy y gallen ni eu gwneud, ac rŷn ni’n bwriadu eu gwneud, dros y flwyddyn nesaf hefyd.