Part of the debate – Senedd Cymru am 5:54 pm ar 24 Ionawr 2023.
Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae canlyniadau’r cyfrifiad yn dangos dirywiad yn y canran o siaradwyr Cymraeg yn bron bob ardal, gan gynnwys ar gyfer pob oed, ac ymhlith plant tair i 15 oed ym mhob sir yn fy rhanbarth i. Felly, mae’n hollbwysig bod yr amrywiaeth o fentrau lleol sy'n hybu’r iaith, yn enwedig rhai sydd wedi derbyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, yn parhau i gael eu cefnogi, fel gwnaethoch chi sôn.
Mae Tŷ’r Gwrhyd, fel rŷch chi'n gwybod, yn ganolfan Gymraeg ym Mhontardawe, a sefydlwyd â chefnogaeth grant buddsoddi cyfalaf Bwrw Mlaen, ac mae'n enghraifft dda o’r hyn sy'n bosib i sicrhau cefnogaeth anffurfiol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg i blant ac oedolion a sicrhau defnydd cymunedol yr iaith, ac yn gwneud y gwaith hollbwysig yna o godi hyder y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae'r ganolfan, trwy ei siop lyfrau, yn cynhyrchu incwm sy'n cael ei fuddsoddi'n llwyr yn y ganolfan a'i gweithgareddau, gan gynnwys hefyd darparu cyflogaeth i ddau siaradwr Cymraeg lleol, ond dyw’r incwm ddim yn ddigon i gynnal y fenter i’r hir dymor ar ôl i daliadau yr adeilad gyda grant Bwrw Mlaen orffen yn 2026. Beth felly mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi mentrau fel Tŷ’r Gwrhyd, sydd â thrac record llwyddiannus o gryfhau’r Gymraeg ar lefel gymunedol, ond sy'n wynebu dyfodol ansicr yn sgil y wasgfa economaidd fel y darluniwyd gan Heledd Fychan?