– Senedd Cymru am 6:32 pm ar 24 Ionawr 2023.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022. Y Gweinidog i wneud y cynnig yma. Rebecca Evans.
Mae Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 yn ymwneud â gosod cyfraddau treth 2023-24 ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi. Fe'u gwnaed gan ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol 'gwnaed'. Mae'r rheoliadau hyn yn gosod y cyfraddau gwaredu safonol, is ac anawdurdodedig ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi, a fydd, yn amodol ar ganlyniad y ddadl heddiw, yn berthnasol i warediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2023 neu ar ôl hynny.
Yn unol â fy nghyhoeddiad yn y gyllideb ddrafft ar 13 Rhagfyr, bydd y cyfraddau safonol ac is ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi yn cynyddu yn unol â chwyddiant mynegai prisiau manwerthu, fel y rhagwelwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn hydref 2021. Mae'r dull hwn yn sicrhau bod y gyfradd yn parhau i fod yn gyson â threth tirlenwi Llywodraeth y DU ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gan ddarparu'r sefydlogrwydd y mae busnesau wedi dweud wrthym eu bod ei angen. Trwy osod cyfraddau treth sy'n gyson â threth tirlenwi'r DU, bydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i elwa ar refeniw trethi gan sicrhau bod y risg o symud gwastraff dros y ffin yn gostwng.
Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud eleni i ystyried yr agenda tymor hwy ar gyfer cyfraddau treth gwarediadau tirlenwi. Rwyf hefyd wedi comisiynu adolygiad annibynnol o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017, a fydd yn dod i ben yn ddiweddarach yn y gwanwyn. Bydd unrhyw ganfyddiadau'r adolygiad yn cyfrannu at ddatblygiad polisi yn y dyfodol. Bydd y gyfradd safonol yn cynyddu i £102.10, a bydd y gyfradd is yn £3.25 y dunnell. Bydd y gyfradd anawdurdodedig, sy'n cael ei chynnal ar 150 y cant o'r gyfradd safonol er mwyn annog pobl i beidio ag ymgymryd â gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon, yn £153.15 y dunnell. Gofynnaf i Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn.
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths, sydd yn ymddangos fel ei fod e mewn rhywfaint o sioc i fi ei alw e. Does dim rhaid cyfrannu, wrth gwrs. Felly, fe wnaf i ofyn i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—ydy e'n disgwyl i fi ei alw e? Ydy. Felly, Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fe wnaethon ni drafod y rheoliadau hyn ar 16 Ionawr ac mae ein hadroddiad wedi cael ei osod er gwybodaeth i'r Aelodau yn y ddadl y prynhawn yma.
Mae ein hadroddiad ar y rheoliadau hyn yn cynnwys tri phwynt rhinwedd, a diolch yn fawr i'r Gweinidog am ddarparu ymateb amserol. Rwy'n mynd i ganolbwyntio ar ein trydydd pwynt rhinwedd, ac rwy'n mynd i'w nodi fel darn bach ond pwysig iawn o gynnydd o ran y Gymraeg ac mewn gwirionedd o ran cael deddfwriaeth a rheoliadau Cymraeg a Saesneg ar yr un pryd. Oherwydd nododd bod Llywodraeth Cymru wedi dibynnu ar Reol Sefydlog 15.4 i gyfiawnhau gosod memorandwm esboniadol Saesneg yn unig, ar y sail bod, mewn dyfyniadau,
'nid yw'n cael ei ystyried yn briodol o dan yr amgylchiadau neu'n rhesymol ymarferol i'w osod yn Gymraeg a Saesneg'.
Yn ein hadroddiad, dadleuwyd y byddai memorandwm esboniadol Cymraeg yn wir yn helpu unrhyw siaradwyr Cymraeg sydd â diddordeb yn y rheoliadau hyn. Ac felly, gwnaethom ofyn i Lywodraeth Cymru esbonio pam nad yw'n cael ei hystyried yn briodol neu'n rhesymol ymarferol i osod y memorandwm esboniadol yn Gymraeg. Mae hyn wedi bod yn dipyn o thema barhaus i fy mhwyllgor ers tro. Roedd yr ymateb a gawsom yn wreiddiol, unwaith eto, yn nodi Rheol Sefydlog 15.4 a nododd fod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â chanllawiau a ddarparwyd gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, a
'Gan fod y Rheoliadau o natur dechnegol a byddant yn effeithio ar gyfran hynod fach yn unig o'r boblogaeth, nid yw'r Memorandwm Esboniadol wedi cael ei ystyried yn flaenoriaeth ar gyfer ei gyfieithu'.
Fodd bynnag—arhoswch eiliad—rydyn ni'n nodi bod yr ymateb hwn yn wir bellach wedi ei ddisodli gan ymrwymiad yr ydym ni wedi'i gael gan Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, ac rydyn ni'n croesawu hynny mewn gwirionedd. Soniais yn gynharach bod y diffyg memoranda esboniadol Cymraeg sydd ar gael yn rhy aml ar gyfer is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Gymru wedi bod yn bryder i'n pwyllgor. Felly, ysgrifennom ni at yr Ysgrifennydd Parhaol ychydig cyn y Nadolig, gyda chytundeb holl aelodau'r pwyllgor, a datgan ein cred eto nad ydyn ni wedi ein perswadio—ni chawsom ein perswadio bryd hynny nac yn awr—y dylid defnyddio Rheol Sefydlog 15.4 fel modd i beidio â chynhyrchu memoranda esboniadol Cymraeg, yn enwedig yng ngoleuni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hygyrchedd cyfraith Cymru. Dywedon ni hefyd y dylai memoranda esboniadol sy'n gysylltiedig ag unrhyw ddeddfwriaeth fod ar gael yn Gymraeg bob amser, a chredwn y byddai hyn yn dilyn ysbryd y safonau Cymraeg.
Fel pwyllgor, rydym wedi bod yn pryderu y gall fod problemau o ran sicrhau adnoddau yn Llywodraeth Cymru a gofynnom am asesiad yr Ysgrifennydd Parhaol ynghylch pa un a oes gan y Llywodraeth ddigon o gapasiti i gynhyrchu'r holl femoranda esboniadol i is-ddeddfwriaeth yn Gymraeg. Rydym yn ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Parhaol am ateb prydlon ac rydym yn croesawu'n fawr yr ymrwymiad y bydd Llywodraeth Cymru, yn dilyn cyfnod byr o ymsefydlu, yn llunio memoranda esboniadol i is-ddeddfwriaeth Cymru yn ddwyieithog.
Tynnaf hyn i sylw'r Aelodau y prynhawn yma ac fe'i nodaf fel llwyddiant bach o gydweithio da gyda Llywodraeth Cymru a'r pwyllgor. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n deall fod Peredur Owen Griffiths wedi dod dros y sioc o gael ei alw nawr a'i fod yn barod i gyfrannu.
Felly, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffths.
Diolch, Llywydd, ac ymddiheuriadau am beidio â bod yn barod yn fanna.
Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl. Fe wnaeth y pwyllgor ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ddydd Iau diwethaf ar ôl i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad osod ei adroddiad. Nid oes gennym unrhyw bwyntiau adrodd pellach i'w gwneud ar wahân i'r rhai sydd eisoes yn dod o dan y pwyllgor hwnnw ac felly rydym yn ei ystyried yn briodol ac yn gymesur ar yr achlysur hwn i beidio â chynhyrchu ein hadroddiad ar wahân ein hunain.
Ond hoffwn bwysleisio pwysigrwydd y ffaith fod y Pwyllgor Cyllid, fel porthor craffu ariannol yn y Senedd, yn cael cyfle i graffu ar reoliadau o'r fath. Er nad oes gennym unrhyw faterion polisi i'w codi yn yr achos hwn, rydym yn llwyr ddisgwyl i unrhyw offerynnau treth yn y dyfodol gael eu cyfeirio atom gan y Pwyllgor Busnes.
Hoffwn hefyd roi sicrwydd i Aelodau y byddwn, fel pwyllgor, yn parhau i gadw llygad barcud ar y fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu'r gwaith o weithredu trethi datganoledig yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru yn y maes hwn a chanlyniad yr adolygiad annibynnol o'r dreth gwarediadau tirlenwi, fel y cyfeirir ato yn adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Diolch yn fawr.
Y Gweinidog i ymateb.
Fe wnaf fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r ddau bwyllgor am eu gwaith. Rwy'n credu bod y pwyntiau pwysig y mae'r ddau gadeirydd wedi'u gwneud y prynhawn yma yn sicr yn mynd ymhell y tu hwnt i gwmpas y rheoliadau cul yr ydym yn eu trafod y prynhawn yma, ond rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaed yn bwysig iawn, ac rwy'n falch ein bod ni wedi gallu dod i gasgliad da gyda'r gwaith o ran y pwyllgor deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad yn dangos rhywfaint o waith cydweithredol da rhwng Llywodraeth Cymru a phwyllgorau.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.