Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 25 Ionawr 2023.
Er bod y Post Brenhinol yn fater a gedwir yn ôl, rwyf mewn cysylltiad rheolaidd ag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu a’r Post Brenhinol, o ystyried pwysigrwydd y gwasanaeth i weithwyr a chymunedau ledled Cymru. Cyfarfûm ddiwethaf ag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu a’r Post Brenhinol, ar wahân, ar 11 ac 16 Ionawr.