Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 25 Ionawr 2023.
Rwy'n ddiolchgar i chi am eich ateb. Cefais wybod gan aelodau awdurdod tân ac achub canolbarth a gorllewin Cymru eich bod wedi rhoi gwybod i'r gwasanaeth yno y bydd y grant Airwave FireLink, a ddefnyddir i gefnogi eu platfform radio hanfodol, yn dod i ben yn gyfan gwbl ym mis Ebrill eleni. Mewn cymhariaeth, mae'r Swyddfa Gartref yn araf leihau ei chyllid grant FireLink i awdurdodau tân ac achub Lloegr 20 y cant bob blwyddyn am bum mlynedd. Er bod hwn yn cael ei leihau'n raddol, mae'n dal i roi cyfle i awdurdodau tân ac achub yno gynllunio ar gyfer pan fydd y grant yn dod i ben a gwasgaru'r effaith ariannol, yn hytrach na chael pedwar mis yn unig i ddod o hyd i £0.5 miliwn yn eu cyllidebau. O ystyried bod Airwave yn achubiaeth hanfodol i wasanaethau golau glas, gan gynnwys gwylwyr y glannau, a fyddech yn ailystyried eich penderfyniad a lleihau'r grant hwn yn raddol yn lle hynny?