Cynnydd Cyfamod yr Heddlu

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 25 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:14, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn hwnnw, Alun Davies. Mae Llywodraeth Cymru'n ymwneud yn agos â'r gwaith o ddatblygu cyfamod yr heddlu, gan gynnwys drwy fod yn aelod o'r grŵp goruchwylio cyfamodau, sy'n cael ei gadeirio gan Weinidog plismona Llywodraeth y DU. Rydym hefyd yn archwilio'r posibilrwydd o greu cyfamod ehangach ar gyfer y gwasanaethau brys yng Nghymru.